Amdanom ni

Ni yw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, corff gwarchod cwynion yr heddlu sy'n goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn ymchwilio i'r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys marwolaethau yn dilyn cyswllt â'r heddlu ac rydym yn gosod y safonau y dylai'r heddlu ymdrin â chwynion yn eu herbyn.
Rydym yn annibynnol, sy’n golygu bod ein penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gwbl annibynnol i'r heddlu a’r llywodraeth. Ein gweledigaeth yw bod pawb yn gallu bod â ffydd a hyder mewn plismona.
I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio ein dysgu a’n hargymhellion o’n gwaith i hyrwyddo safonau uchel o broffesiynoldeb ac atebolrwydd mewn plismona. Mae ein dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ysgogi gwelliannau mewn arferion plismona, er budd y cyhoedd a’r heddlu.
Ein hannibyniaeth a'n llywodraethiant
Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethiant, a beth sy'n ein gwneud yn sefydliad annibynnol.Ein strategaeth a'n perfformiad
Dysgwch am ein strategaeth pum mlynedd, ein perfformiad a sut rydym yn mesur llwyddiant.
Darganfyddwch fwy am ein tîm arwain
Ein pobl