Swyddog Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol
Mae heddwas o Heddlu Dyfed-Powys wedi’i ddiswyddo heb rybudd ar ôl i gamymddwyn difrifol gael ei ganfod mewn gwrandawiad gan yr heddlu, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Roedd Siarsiant yr Heddlu Karl Longhurst, 44, yn wynebu honiadau o gamymddwyn difrifol ar ôl cael ei gyhuddo o fod â, ac o fethu â datgan, perthynas amhriodol â dynes fregus oedd yn ddioddefwr trosedd.
Dechreuodd ymchwiliad yr IOPC ym mis Gorffennaf 2020 ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys gyfeirio cwyn a wnaed gan y ddynes am y swyddog yn anfon negeseuon o natur rywiol ati. Roedd PS Longhurst wedi bod yn siarsiant y ddalfa ym mis Awst 2017, a honnwyd, wrth gymryd swab DNA o geg y fenyw, iddo wneud sylw rhywiol iddi. Roedd PS Longhurst, ar adegau pan nad oedd ar ddyletswydd, wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol cydsyniol â'r fenyw beth amser cyn hynny. Edrychodd yr ymchwiliad i honiadau fod PS Longhurst wedi methu ag adrodd am y berthynas oedd yn bodoli eisoes i'w oruchwylydd fel sy'n ofynnol gan bolisi'r heddlu, ac er mwyn peidio â delio â'r ddynes ar yr adeg pan ddaeth i'r ddalfa. Honnwyd ymhellach ei fod, rhwng Ionawr a Mehefin 2020, er ei fod yn ymwybodol o’r cyswllt plismona blaenorol a’i gwendidau, wedi anfon neges at y fenyw mewn ymdrech bwrpasol i ailgynnau eu perthynas flaenorol.
Bu ymchwilwyr yr IOPC yn cyfweld â’r swyddog dan rybudd, yn archwilio ei ffôn symudol ac yn ymchwilio i negeseuon testun a lawrlwythwyd o ffôn y fenyw. Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Mai y llynedd, fe wnaethom gyflwyno ein hadroddiad i'r heddlu â'n barn bod gan PS Longhurst achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol.
Penderfynodd panel disgyblu’r heddlu, a arweiniwyd gan Gadeirydd annibynnol â chymwysterau cyfreithiol, ar 10 Tachwedd fod y swyddog wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol mewn nifer o feysydd gan gynnwys gonestrwydd ac uniondeb, ac ymddygiad annheilwng. Penderfynwyd y byddai'n cael ei ddiswyddo heb rybudd.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC yng Nghymru, Catrin Evans: “Tra bod unrhyw gyswllt rhywiol â’r ddynes wedi digwydd pan nad ar ddyletswydd, cafodd PS Longhurst ddigon o gyfle i adrodd am y berthynas ond methodd â gwneud hynny, yn groes i bolisi’r heddlu. Roedd yn amlwg yn dangos diffyg gonestrwydd a chyfaddefodd ymddygiad annerbyniol tuag at garcharor benywaidd a ymddiriedwyd yn ei ofal tra'n cyflawni rôl hanfodol bwysig fel rhingyll y ddalfa. Peth amser yn ddiweddarach, er ei fod yn gwybod am amgylchiadau'r fenyw a’i chyswllt â’r heddlu yn y gorffennol, roedd yn anfon negeseuon ati mewn modd rhywiol mewn ymgais i adnewyddu eu perthynas.
“Yn ein barn ni, roedd ymddygiad PS Longhurst mewn perygl o danseilio hyder y cyhoedd mewn plismona ac roedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol. Ar ôl ystyried y dystiolaeth mae panel disgyblu’r heddlu wedi penderfynu ei ddiswyddo heb rybudd.”
Bydd PS Longhurst yn awr yn cael ei roi ar restr wahardd yr heddlu.