Mae’r IOPC yn mynychu Eisteddfod 2024

Published: 05 Aug 2024
Blog
Gŵyl ddiwylliannol yr Eisteddfod yng Nghymru, gyda’r mynychwyr yn y llun o flaen arddangosfa wedi’i llunio â thestun a phabell yr ŵyl a baneri y tu ôl iddynt.

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, ac mae'n cael ei chynnal mewn rhan wahanol o Gymru bob blwyddyn. Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, cynhelir yr Ŵyl i arddangos a dathlu cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf Cymreig a llawer mwy, ac wrth wneud hynny, mae’n denu hyd at 170,000 o ymwelwyr ac yn cynnal dros 200 o stondinau. Eleni rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gan ein mudiad bresenoldeb yn yr ŵyl am y tro cyntaf erioed.

Mewn cydweithrediad â’n Rhwydwaith Staff Iaith Gymraeg, rwyf wedi bod yn brysur yn trefnu a pharatoi ein stondin yn yr ŵyl, a gynhelir eleni yn Rhondda Cynon Taf, Cymru. Drwy gydol wythnos yr Eisteddfod (3-10 Awst 2024), bydd ein staff wrth law i sgwrsio ag aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’n stondin, a fydd yn cael ei osod ochr yn ochr â stondinau gan sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Iaith Gymraeg Llywodraeth y DU. Mae gan ein sefydliad ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, ac rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau a sut y gallwch gael mynediad atynt os oes angen.

Yn y digwyddiad, gallwch ymuno â ni i archwilio’r nifer o ffyrdd y gallwch ddefnyddio’r iaith Gymraeg gyda ni:

  • cyhoeddir gwybodaeth yn y Gymraeg ar ein gwefan
  • mae ffurflenni electronig ar gael yn y Gymraeg ar ein gwefan 
  • gall ein canolfan gyswllt cwsmeriaid ymdrin â galwadau yn y Gymraeg
  • gallwch ddarparu datganiadau ysgrifenedig i ni yn y Gymraeg
  • gallwn gynnal cyfweliadau tystion yn y Gymraeg
  • gallwch alw ein rhif teleffon apêl tystion a gadael neges yn y Gymraeg
  • rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi yn y Gymraeg

Tra byddwn yn yr Eisteddfod, byddwn hefyd yn cynnal arolwg byr i ddarganfod sut y gallwn wella ein gwasanaethau iaith Gymraeg ymhellach. Mae croeso i chi ymweld â ni yng ngŵyl yr Eisteddfod i gymryd yr arolwg a dweud eich dweud. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno.

Written by

Image
Cath Baldwin Welsh Language Development Manager