Y Gyfraith, Adrodd a Monitro
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth ategol yn nodi dyletswyddau cyffredinol a phenodol y mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus, fel ni, eu cyflawni. Gelwir y rhain yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Mae’r Ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach, ac yn nodi’r gwahanol ffyrdd y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.
Nodau hyn yw y dylai cyrff cyhoeddus:
- ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt
- meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt
Mae nodweddion gwarchodedig yn rhinweddau a allai o bosibl arwain at wahaniaethu yn erbyn pobl. Y nodweddion hyn yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Adrodd a monitro
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus baratoi a chyhoeddi un neu fwy o amcanion a fydd yn eu helpu i gyflawni unrhyw un o’r pethau a grybwyllir yn nhri nod y Ddyletswydd Cydraddoldeb. Mae'n rhaid i'r amcanion fod yn benodol ac yn fesuradwy.
Ein Hamcanion Cydraddoldeb
Amcan un – ein sefydliad
Creu amgylchedd cynhwysol, parchus lle mae amrywiaeth yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi, gyda gweithlu sy’n ddiwylliannol gymwys sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i adnabod a herio gwahaniaethu.
Amcan dau – ein defnyddwyr gwasanaeth
Darparu gwasanaeth teg, diwylliannol gymwys i bawb sy'n dod i gysylltiad â ni.
Amcan tri – ein cymunedau
Gweithio'n weithredol i wella hyder y cymunedau a'r grwpiau hynny sydd â lleiaf o hyder ac ymddiriedaeth yn yr heddlu.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn goruchwylio'r Ddeddf a Materion yn ymwneud â Chydraddoldeb yn Lloegr a Chymru. I gael rhagor o wybodaeth am fonitro ac adrodd o dan Ddeddf 2010, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Rydym yn asesu ein holl bolisïau, prosesau a phrosiectau i sicrhau nad ydynt yn rhoi unrhyw grŵp penodol o bobl dan anfantais.
I helpu â hyn, rydym yn cynnal asesiad effaith Cydraddoldeb ar gyfer pob polisi, proses a phrosiect newydd. Mae'r asesiad hwn yn nodi os bydd unrhyw grŵp penodol o bobl yn cael eu heffeithio'n annheg ac, os felly, sut y byddwn yn cywiro hyn.