Adroddiad Gwahaniaethu ar sail Hil - Tachwedd 2024
Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd ein gwaith thematig i archwilio, herio ac ymladd yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil mewn plismona. Gwnaethom edrych ar fwy na 300 o ymchwiliadau ac adolygiadau gan SAYH o gwynion lle roedd gwahaniaethu ar sail hil yn ffactor posibl i'w ystyried. Rydym yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’n gwaith i helpu plismona i gymryd camau i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona a system gwynion yr heddlu gyda chymunedau yr effeithir arnynt.
Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn adnodd gwerthfawr i gynorthwyo ac arwain cynnydd ychwanegol mewn arferion plismona. Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer ymdrin â honiadau o wahaniaethu a phecyn cymorth ar gyfer y rhai sy’n ymdrin â chwynion yr heddlu.