Cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu - adolygiad o'r ymdriniaeth

Published 17 Dec 2024
Cyhoeddiad neu adroddiad

Cododd uwch-gŵyn y Ganolfan Cyfiawnder Merched a gyflwynwyd yn 2020 bryderon nad oedd heddluoedd yn ymateb yn briodol i achosion o gam-drin domestig yn ymwneud â swyddogion heddlu neu staff heddlu. Yn dilyn ymchwiliad ac adroddiad ar y cyd yn 2022 a oedd yn cynnwys SAYH, y Coleg Plismona ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS), fe wnaethom ddechrau gweithio i edrych ar sut mae’r heddlu’n ymdrin â cham-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu (PPDA).

Er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut mae heddluoedd yn ymateb i adroddiadau PPDA, fe wnaethom arolygu holl heddluoedd Cymru a Lloegr, a chynnal trafodaethau dilynol â chwe heddlu. Gofynnwyd iddynt sut y caiff adroddiadau eu nodi a'u cofnodi, am benderfyniadau asesu cychwynnol ac ymchwiliadau dilynol. Gwnaethom ofyn am wybodaeth am yr hyfforddiant y mae trinwyr cwynion yn ei dderbyn a pha gymorth a roddir i ddioddefwyr-oroeswyr.

Galluogodd y gwaith hwn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr arferion presennol ym mhob heddlu, ac mae wedi arwain at gyhoeddi galwadau i weithredu gan amlygu’r arfer addawol rydym wedi’i ganfod a hefyd y meysydd  y mae angen eu gwella o hyd. Rydym yn bwriadu i’r galwadau hyn i weithredu osod safonau ar gyfer ymdrin â chwynion a materion ymddygiad sy’n ymwneud â PPDA ac rydym yn galw ar heddluoedd i’w defnyddio fel rhestr wirio i’w hystyried yn erbyn eu prosesau. Bydd hyn yn helpu i nodi unrhyw feysydd i'w gwella a allai fod yn berthnasol i'w heddlu.

Lawrlwytho cyhoeddiad
Maint y ffeil 1.45 MB | Math o ffeil PDF