Trais yn erbyn menywod a merched: Adolygiad trin achosion o'r dechrau i'r diwedd - Chwefror 2024
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn bryder i blismona a system gwynion yr heddlu. Mae achwynwyr a dioddefwyr-oroeswyr yn parhau i adrodd y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu pan fyddant yn dod i gysylltiad â'r heddlu. Mae achosion proffil uchel sy'n peri gofid fel llofruddiaeth Sarah Everard a gweithredoedd swyddogion heddlu yn ymchwilio i lofruddiaethau Bibaa Henry a Nicole Smallman wedi arwain at bryder cyhoeddus cynyddol am ymateb yr heddlu yn y maes hwn. Mae hyn wedi niweidio hyder y cyhoedd mewn plismona ac wedi codi cwestiynau am yr agweddau diwylliannol tuag at fenywod a merched mewn plismona yn gyffredinol.
Fel rhan o'n gwaith ar drais yn erbyn menywod a merched, fe wnaethom weithio gydag wyth llu heddlu i adolygu detholiad o ffeiliau cwynion ac ymddygiadau. Fe wnaethom archwilio 121 o ffeiliau i adolygu sut y gwnaethant ymdrin â materion cwynion ac ymddygiadau lle roedd trais yn erbyn menywod a merched yn ffactor ac a oedd eu hymatebion yn briodol, cymesur ac yn unol â chyfraith a chanllawiau perthnasol. Mae'r adroddiad hwn yn rhannu ein canfyddiadau.