Negeseuon gwahaniaethol a rennir o fewn grŵp WhatsApp – Heddlu Gorllewin Mersia a Heddlu Dyfed-Powys, Mawrth 2021

Published 05 Jan 2023
Investigation

Ym mis Mawrth 2021, fe ddechreuon ni ymchwiliad annibynnol i ymddygiad wyth o swyddogion Heddlu Gorllewin Mersia ac, wedi hynny, un swyddog o Heddlu Dyfed-Powys, a oedd yn rhan o grŵp WhatsApp o’r enw ‘The Super Shift’. Roedd hyn yn dilyn cyfeiriadau ymddygiad gan Heddlu Gorllewin Mersia a Heddlu Dyfed-Powys.

Atafaelwyd ffôn symudol cyfranogwr yn y grŵp WhatsApp fel rhan o ymchwiliad annibynnol anghysylltiedig gan yr IOPC. Adenillwyd cyfanswm o 1,555 o negeseuon o fewn y grŵp hwn, gyda rhai ohonynt yn cynnwys atodiadau megis ffotograffau, fideos a memynnau.

Roedd yr atgyfeiriadau ymddygiad cychwynnol gan y ddau heddlu yn cyfeirio at y ffaith y gallai negeseuon a rennir o fewn y grŵp gael eu hystyried yn hiliol, homoffobig a/neu misogynistig yn eu natur.

Edrychodd ein hymchwiliad i weld os gallai unrhyw rai o’r negeseuon neu atodiadau a anfonwyd neu a rannwyd gan y swyddogion o fewn y grŵp gael eu hystyried yn sarhaus neu’n wahaniaethol ac os oedd unrhyw rai o’r negeseuon neu atodiadau a anfonwyd neu a rannwyd o fewn y grŵp, y tybiwyd eu bod yn sarhaus neu’n gwahaniaethu, yn cael eu herio neu eu adrodd gan unrhyw un o'r swyddogion. Yn olaf, a dim ond lle ei fod yn berthnasol mewn perthynas â'r swyddog Heddlu Dyfed-Powys, a ellid ystyried bod unrhyw un o'r negeseuon a anfonwyd neu a rannwyd o fewn y grŵp yn datgelu neu'n trafod gwybodaeth blismona sensitif.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaethom asesu pob un o'r negeseuon o fewn y grŵp WhatsApp ac yna cafodd pob un o'r naw swyddog eu cyfweld mewn perthynas â'r postiadau hyn. Aseswyd nifer o'r negeseuon a rannwyd fel rhai gwahaniaethol a/neu sarhaus yn eu natur.

Daethom i'r casgliad i ddechrau o chamymddwyn difrifol ar gyfer tri o swyddogion Heddlu Gorllewin Mersia a chyfranogiad yn y broses adolygu ymarfer myfyriol (RPRP) ar gyfer y pum swyddog Heddlu Gorllewin Mersia sy'n weddill.

Yna gwnaeth Heddlu Gorllewin Mersia eu cynrychioliadau eu hunain, a chytunwyd â nhw wedyn.

Roedd tri o swyddogion Heddlu Gorllewin Mersia yn destun cyfarfod camymddwyn ym mis Hydref 2022, a arweiniodd at rybuddion ysgrifenedig ar ffeil am 18 mis ac aeth gweddill y swyddogion drwy RPRP.

Mae swyddog sy'n myfyrio ar eu gweithredoedd yn broses ffurfiol a amlinellir mewn deddfwriaeth. Mae RPRP yn cynnwys cam canfod ffeithiau a cham trafod, ac yna cynhyrchu adroddiad datblygu adolygiad myfyriol. Rhaid i’r drafodaeth gynnwys:

  • trafodaeth o'r arfer sydd angen ei wella ac amgylchiadau cysylltiedig a nodwyd, a
  • nodi gwersi allweddol i'w dysgu gan y swyddog sy'n cymryd rhan, y rheolwyr llinell neu'r heddlu dan sylw, i fynd i'r afael â'r mater ac atal y mater rhag ddigwydd eto.

Daethom i'r casgliad o chamymddwyn i’r swyddog pwnc o Heddlu Dyfed-Powys, a bu iddynt fynychu cyfarfod camymddwyn ym mis Gorffennaf 2022 a chael rhybudd ysgrifenedig ar ffeil am 18 mis.

Gwnaethom aros i'r holl drafodion cysylltiedig gael eu cwblhau cyn cyhoeddi ein canfyddiadau.

Gwnaethom ystyried yn ofalus os oedd unrhyw gyfleoedd dysgu yn deillio o'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud argymhellion dysgu i wella plismona a hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu ac atal digwyddiadau tebyg rhag ddigwydd eto.

Ni wnaethom nodi unrhyw ddysgu sefydliadol.

IOPC reference

2021/150336