Argymhelliad cenedlaethol - Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, Awst 2022
Gwnaethom nodi gwersi cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau chwilio yn y ddalfa yn dilyn adolygiad o ymchwiliad gan yr heddlu.
IOPC reference
Recommendations
Mae’r IOPC yn argymell bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o achosion yr IOPC ag arweinwyr dalfeydd yr heddlu, gan ofyn iddynt adolygu eu polisïau dalfa, gweithdrefnau a hyfforddiant i sicrhau bod synwyryddion metel yn cael eu defnyddio fel rhan o bob chwiliad wrth gofrestru carcharorion i’r ddalfa (ar yr amod ei fod yn ddiogel gwneud hynny).
Mae hyn yn dilyn adolygiad gan yr IOPC o ymchwiliad lleol i Farwolaeth ac Anafiadau Difrifol (DSI) lle na chynhaliwyd chwiliad datgelydd metel ar y sawl a oedd yn cael ei gadw, gan olygu na chanfuwyd llwy fetelaidd y gwnaethant ei secretu. O ganlyniad, defnyddiodd y carcharor hwn i gymryd cyffur anghyfreithlon tra’n cael ei gadw a dioddefodd orddos opioid. Mae digwyddiadau tebyg eraill lle mae gwrthrychau metelaidd wedi’u cuddio gan garcharorion a’u defnyddio’n ddiweddarach, yn bennaf i niweidio eu hunain, wedi’u hamlygu gan ganlyniad yr achos hwn. Yn ystod yr holl ddigwyddiadau hyn chwiliwyd y carcharorion ond ni ddefnyddiwyd unrhyw ddatgelyddion metel fel rhan o'r chwiliadau.
Er bod disgwyliad eisoes y dylai carcharorion gael eu chwilio gan ddefnyddio datgelydd metel cyn cael eu rhoi yng nghelloedd yr heddlu, fel yr amlinellir yng Nghwricwlwm Plismona Cenedlaethol Cadw a Dalfeydd y Coleg Plismona, mae rhywfaint o anghysondeb rhwng polisïau a gweithdrefnau gwahanol heddluoedd ynghylch pryd y dylid defnyddio datgelyddion metel fel rhan o chwiliadau. Gallai gweithredu consensws cenedlaethol ar y mater wella diogelwch a lles carcharorion (a staff y ddalfa) yn y dyfodol.
Nodir y gall defnyddio datgelyddion metel ategu chwiliadau trwy gynorthwyo staff y ddalfa i adnabod eitemau metelaidd neu arfau. Fodd bynnag, nid yw defnyddio synhwyrydd metel yn disodli'r angen am chwiliad trylwyr gan staff y ddalfa.
Do you accept the recommendation?
Yes
Accepted action:
This recommendation has been accepted.
The learning recommendation will be circulated on ChiefsNet for all Chief Constables to consider for wider learning, and it will also be shared with all custody leads across England and Wales whose details are held by the NPCC Custody Portfolio.
Please note that whilst the action is accepted and the NPCC will complete the above action – Forces should be following Authorised Professional Practice, which highlights the need for wand searching. If they choose not to follow APP then they must justify this and create their own policy and procedure around the decision.