Mae gennych chi lais
Ni ddylai’r heddlu wneud i neb deimlo wedi eu hanwybyddu, yn anghyfforddus, nac yn anniogel – mae gennych chi’r hawl i godi llais a chael eich llais wedi’i glywed.
Ar y dudalen hon fe gewch ragor o wybodaeth am sut y gallwch wneud cwyn am yr heddlu, yr hyn y gallwch gwyno amdano, a pha gamau y gellir eu cymryd o ganlyniad i'ch cwyn.
Pwy ydym ni
Ni yw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, corff gwarchod cwynion yr heddlu sy’n goruchwylio system gwynion yr heddlu. Nid ni yw’r heddlu – rydym yn gwbl annibynnol iddynt.
Rydym yn sicrhau bod yr heddlu yn ymchwilio i gwynion amdanynt yn briodol. Rydym yn defnyddio tystiolaeth o'n gwaith i helpu i wella plismona.
Rydym yn deall bod pobl yn poeni am drais yn erbyn menywod a merched, a sut mae’r heddlu’n delio ag ef. Rydym am i chi wybod am system gwynion yr heddlu a sut i wneud cwyn os oes angen.
Darganfyddwch fwy amdanom ni. Darllenwch fwy am y rhesymau rydym yn cynnal yr ymgyrch ymwybyddiaeth hon.
Ymgyrch mae gennych chi lais
Mae enghreifftiau o’r hyn y gallwch gwyno amdano yn cynnwys:
- Fe wnaethoch chi adrodd am rywbeth i’r heddlu ac roeddech chi’n anhapus â’r hyn wnaethon nhw neu na wnaethon nhw.
- Mae eich partner, cyn bartner, neu aelod o’ch teulu yn gweithio neu wedi gweithio i’r heddlu ac fe wnaethon nhw eich cam-drin. Gallai cam-drin olygu'n gorfforol, yn rhywiol, yn emosiynol neu'n ariannol.
- Roeddech mewn cysylltiad â’r heddlu, ac fe wnaethant rywbeth amhriodol, fel eich ychwanegu ar gyfryngau cymdeithasol, eich ffonio neu anfon neges destun atoch, ymweld â chi, rhoi anrhegion, gofyn i chi gadw pethau’n gyfrinachol, fflyrtio, eich cyffwrdd, neu fod yn rhywiol.
Cyfarwyddyd ychwanegol
Os ydych yn teimlo'n barod i wneud cwyn, gallwch wneud hynny yn y ffordd sy'n gweithio i chi:
- Llenwch ein ffurflen gwyn ar-lein.
- Ffoniwch a gofynnwch i ni am ffurflen bapur neu lawrlwythwch ac argraffwch un eich hun (yn fformat Word neu PDF ). Cwblhewch hi a'i phostio neu ei hanfon yn ôl atom trwy e-bost.
- Os ydych yn teimlo'n gyfforddus, gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r gwasanaeth heddlu dan sylw. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’r heddlu yn rhoi opsiynau i chi gwyno mewn gwahanol ffyrdd, fel ar-lein, e-bost, llythyr, ffonio 101, yn bersonol, neu drwy rywun sy’n gweithredu ar eich rhan.
- Os oes angen, gall rhywun rydych yn ymddiried ynddo eich helpu i gwyno.
- Os oes angen help arnoch i wneud eich cwyn, neu os oes eisiau cyngor ychwanegol arnoch, gallwch gysylltu â ni ar: 0300 020 0096
Dysgwch fwy am y gwahanol ffyrdd o gysylltu â ni.
Os ydych yn cynorthwyo rhywun i wneud cwyn, gallwch lawrlwytho ein pecyn gwybodaeth eiriolwyr. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y rheswm rydym yn rhedeg ein hymgyrch 'Mae gennych chi lais'.
Pan fyddwch yn cwyno, bydd y gwasanaeth heddlu y gwnaethoch gwyno amdano yn ymchwilio iddo yn gyntaf. Mae hyn er mwyn iddynt gael cyfle i gywiro pethau. Dylent bob amser gofnodi'ch cwyn, a gallwch ofyn iddi gael ei chofnodi'n ffurfiol.
Mae gan wasanaethau heddlu adrannau arbennig sy'n gyfrifol am ymdrin â chwynion, a elwir fel arfer yn adrannau Safonau Proffesiynol. Mae'r rhan fwyaf o gwynion sy'n mynd at yr heddlu yn cael eu hanfon at y timau hyn.
Dylent ofyn hefyd beth yr hoffech ei weld yn digwydd, oherwydd bod eich llais yn bwysig. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth heddlu ddweud wrthych beth wnaethant a beth yw'r canlyniad.
Mae rhai achosion y mae’n rhaid i’r heddlu eu hanfon atom, felly gallwn wneud penderfyniad ynghylch a fydd SAYH yn cynnal ymchwiliad yn annibynnol i'r heddlu. Rydym yn galw hwn yn atgyfeiriad.
Mae rhestr o bethau y mae’n rhaid i’r heddlu eu hatgyfeirio, er enghraifft os bydd rhywun yn marw neu’n cael ei anafu’n ddifrifol, ond gall yr heddlu atgyfeirio rhywbeth y tu allan i’r rhestr hon o hyd os ydynt yn meddwl bod angen i ni edrych arno. Gallwn hefyd ofyn i’r heddlu gyfeirio rhywbeth atom os ydym yn meddwl bod angen i ni ei asesu.
Pan dderbyniwn atgyfeiriad, rydym yn ei asesu i ystyried a yw ymchwiliad yn angenrheidiol. Nid yw dau atgyfeiriad yr un peth yn union. Mae'r holl atgyfeiriadau yn cael eu hasesu ar eu gwerth eu hunain gan ein huned asesu arbenigol.
Os byddwn yn penderfynu nad oes angen ymchwilio i’r mater gallwn ei anfon yn ôl at yr heddlu i’w drin mewn modd rhesymol a chymesur.
Os byddwn yn penderfynu bod angen ymchwilio, mae tair ffurf o ymchwiliad y gallwn ddewis ohonynt:
- Ymchwiliad lleol: mae adran safonau proffesiynol yr heddlu ei hun yn ymchwilio. Mae hon yn adran ar wahân o fewn yr heddlu sy’n gyfrifol am gwynion a chamymddwyn, gwrth-lygredd, fetio a llywodraethu.
- Ymchwiliad annibynnol: rydym yn ymchwilio gan ddefnyddio ein hymchwilwyr ein hunain
- Ymchwiliad wedi'i gyfarwyddo: rydym yn cyfarwyddo ac yn rheoli'r ymchwiliad gan ddefnyddio adnoddau'r heddlu
Gall cwynion gael canlyniadau gwahanol:
- Gallai aelod o'r heddlu gael hyfforddiant i wneud ei waith yn well.
- Gallai gael ei ddisgyblu yn y gweithle. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o rybudd, hyd at golli ei swydd a chael ei atal rhag gweithio i'r heddlu byth eto.
- Gallai wynebu cyhuddiadau troseddol. Os yw'n cael ei ganfod yn euog, mae'n wynebu'r un cosbau y gallai unrhyw un arall eu cael.
- Rydym hefyd yn gwneud argymhellion i wasanaethau heddlu i'w helpu i ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd a gwella pethau yn y dyfodol.
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am ganlyniadau ymchwiliadau a chwynion.
Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad eich cwyn neu sut y cafodd ei thrin, gallwch ofyn am iddi gael ei hadolygu. Dylai gwasanaeth yr heddlu esbonio hyn pan fyddant yn dweud wrthych am y canlyniad. Mae’n bosibl y bydd sefydliad gwahanol, fel ni, yn gallu edrych arno i weld beth wnaethon nhw, sut y gwnaethon nhw, ac a wnaethon nhw bethau’n iawn.
Darganfyddwch fwy am adolygiadau ac apeliadau.
Gwella plismona
Gall ein hargymhellion dysgu helpu i atal yr un digwyddiadau rhag ddigwydd eto. Gallant arwain at newidiadau i hyfforddiant, canllawiau a phrosesau. Darganfyddwch fwy am ddysgu.
Adnoddau i sefydliadau
Mae gennym amrywiaeth o gynhyrchion pwrpasol ar gael i sefydliadau ac eiriolwyr sy'n cynorthwyo menywod a merched y gellir eu lawrlwytho gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Mae'r cynhyrchion yn cynnwys:
- Pecyn gwybodaeth eiriolwyr ar gyfer gweithwyr proffesiynol i'w helpu i eirioli dros fenywod a merched a'u cynorthwyo i lywio proses gwynion yr heddlu.
- Posteri a thaflenni â gwybodaeth am ein hymgyrch a sut i wneud cwyn.
- Cerdyn busnes plygadwy sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, sydd wedi'i guddio â gorchudd ffug niwtral. Mae hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer menywod a merched sy'n agored i gael eu cam-drin.