Ymchwiliad Hillsborough
Yn 2012, lansiodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH), Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ar y pryd, ymchwiliad annibynnol i weithredoedd yr heddlu yn dilyn trychineb Hillsborough. Arweiniodd y drychineb at farwolaethau 97 o gefnogwyr Lerpwl, ac mae’n parhau i fod y drychineb waethaf yn hanes chwaraeon Prydain hyd heddiw.
Dyma’r ymchwiliad annibynnol mwyaf erioed i gamymddwyn a throseddoldeb honedig yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Cefndir
Bu farw naw deg saith o gefnogwyr Lerpwl o ganlyniad i’r digwyddiadau a ddigwyddodd yn rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989. Cafodd cannoedd yn fwy o gefnogwyr eu hanafu ac mae’r drychineb wedi gadael pobl di-rif a oroesodd wedi’u trawmateiddio.
Teithiodd mwy na 50,000 o ddynion, merched a phlant i'r gêm yn Stadiwm Hillsborough, cartref Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday. Ychydig funudau ar ôl y gic gyntaf, cafwyd gwasgfa angeuol ar derasau pen Leppings Lane, lle lleolwyd cefnogwyr Lerpwl.
Roedd rhai adroddiadau yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar honiadau di-sail mai ymddygiad meddw cefnogwyr Lerpwl oedd achos y drychineb ac yn rhwystro’r ymateb brys. Mae hyn wedi ei wrthbrofi lawer gwaith.
Dychwelodd y cwestau cychwynnol ym mis Mawrth 1991 reithfarnau o farwolaeth ddamweiniol i'r 95 marwolaeth - fel yr oedd ar y dyddiad hwnnw. Bu farw’r nawdeg chweched dioddefwr, Tony Bland, bron i bedair blynedd ar ôl y drychineb ac, unwaith eto, cofnododd y Crwner reithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Bu farw’r nawdeg seithfed dioddefwr, Andrew Devine, ar 27 Gorffennaf 2021, ar ôl salwch hir o 32 mlynedd o niwmonia allsugnad, a dyfarnodd y Crwner iddo farw o ganlyniad i’w anafiadau a gafodd yn Stadiwm Hillsborough.
Canllaw i'r ymchwiliad
Ar ôl dros 20 mlynedd o eiriolaeth gan y teuluoedd a’r grwpiau ymgyrchu, yn 2010 ffurfiwyd Panel Annibynnol Hillsborough dan gyfarwyddyd y Senedd a chafodd ei arwain gan y Gwir Barchedig James Jones KBE (Esgob Lerpwl tan 2013). Ei ddiben oedd cynorthwyo i ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â'r drychineb yn llawn i'r cyhoedd.
Cyhoeddwyd Adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough ym Medi 2012 a daeth i’r casgliad nad oedd unrhyw gefnogwyr Lerpwl yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am y drychineb, ymhlith canfyddiadau eraill gan gynnwys prif achos y drychineb oedd “diffyg rheolaeth yr heddlu”.
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad gan Banel Annibynnol Hillsborough, gwnaeth y Twrnai Cyffredinol gais llwyddiannus i’r Uchel Lys i ddileu rheithfarnau’r cwestau gwreiddiol a ddychwelodd reithfarnau o farwolaeth ddamweiniol ym mis Mawrth 1991.
Cynhaliwyd cwestau newydd rhwng mis Mawrth 2014 a mis Ebrill 2016, ochr yn ochr â’n hymchwiliad ac ymchwiliad Ymgyrch Resolve. Dychwelodd y rheithgor reithfarn o ladd anghyfreithlon ar gyfer y 96 o gefnogwyr Lerpwl ar y pryd a gollodd eu bywydau a daeth i'r casgliad nad oedd gan y cefnogwyr unrhyw ran mewn achosi'r drychineb.
Yn dilyn marwolaeth Andrew Devine ar 27 Gorffennaf 2021, o ganlyniad uniongyrchol i’r anafiadau a gafodd yn Stadiwm Hillsborough, mewn gwrandawiad cwest canfu’r Crwner ei fod yn “fwy tebygol na pheidio i Andrew Devine gael ei ladd yn anghyfreithlon, gan ei wneud yn nawdeg seithfed marwolaeth o ddigwyddiadau 15 Ebrill 1989.”
Arweiniodd gwybodaeth a ddyfynnwyd yn adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough (HIP) at atgyfeiriadau i SAYH (yr IPCC ar y pryd) gan Heddlu De Swydd Efrog (SYP), yr heddlu oedd yn gyfrifol am blismona’r gêm, a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr (WMP), a gynhaliodd yr ymchwiliad gwreiddiol i'r drychineb.
Ym mis Hydref 2012, fis ar ôl i’r HIP ryddhau ei ganfyddiadau, lansiwyd ymchwiliad annibynnol i gamau gweithredu’r heddlu yn dilyn y drychineb.
Mae meysydd ein hymchwiliad yn cynnwys:
- newidiadau i adroddiadau swyddogion SYP a oedd yn bresennol yn Stadiwm Hillsborough
- honiadau bod gwybodaeth gamarweiniol wedi'i throsglwyddo gan yr heddlu i'r cyfryngau, ASau, y Senedd a'r ymchwiliadau a sefydlwyd yn syth wedi'r drychineb
- gweithredoedd swyddogion heddlu ar ôl y drychineb, gan gynnwys cymryd lefelau alcohol gwaed a chynnal gwiriadau cyfrifiadurol cenedlaethol yr heddlu ar y meirw a’r rhai sydd wedi’u hanafu
- rôl WMP a'r rhai a arweiniodd ei ymchwiliad
- honiadau bod aelodau o'r teulu ac ymgyrchwyr wedi bod yn destun gwyliadwriaeth gan yr heddlu ar ôl y drychineb
Trwy gydol yr ymchwiliad rydym wedi blaenoriaethu gweithio gyda theuluoedd a goroeswyr Hillsborough sydd wedi cael profedigaeth, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Darllenwch y Cylch Gorchwyl llawn ar gyfer ymchwiliad annibynnol SAYH.
O ganlyniad i’n hymchwiliad, dechreuodd treial troseddol ar 19 Ebrill 2021 a daeth i ben ar 26 Mai 2021. Roedd yn canolbwyntio ar ddiwygio adroddiadau tystion, a hwn oedd y tro cyntaf i unrhyw un wynebu achos troseddol mewn perthynas â chamau gweithredu a ddigwyddodd yn dilyn trychineb Hillsborough.
Cyhuddwyd tri diffynnydd o wyrdroi cwrs cyfiawnder:
- cyn-Brif Uwcharolygydd Heddlu De Swydd Efrog, Donald Denton
- cyn-Dditectif Brif Arolygydd Heddlu De Swydd Efrog Alan Foster
- Peter Metcalf, y cyfreithiwr a oedd yn gweithredu ar ran Heddlu De Swydd Efrog ym 1989
Ar ôl i achos yr erlyniad ddod i ben, clywodd y barnwr gyflwyniadau gan y timau amddiffyn. Ar ôl ystyried y rhain, ar 26 Mai 2021, dyfarnodd y barnwr fod yr achos yn erbyn y tri diffynnydd i'w wrthod.
Cafodd ail ymchwiliad ei orchymyn gan yr Ysgrifennydd Cartref o ganlyniad i adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough.
Roedd Ymgyrch Resolve yn gyfrifol am ymchwilio i weithredoedd yr holl sefydliadau hynny a oedd yn gysylltiedig â'r drychineb. Er mwyn sicrhau ei annibyniaeth, mae elfennau o’r ymchwiliad sy’n ymwneud â’r heddlu wedi’u rheoli gennym ni i ddarparu trosolwg a chraffu annibynnol.
Mae cylch gorchwyl Ymgyrch Resolve yn cynnwys:
- ymwneud yr heddlu â chynllunio a pharatoi ar gyfer y gêm
- rheolaeth yr heddlu o gefnogwyr y tu allan i deras Leppings Lane a'u mynediad i'r stadiwm
- ymateb cynnar yr heddlu i'r drychineb
- cyswllt yr heddlu â theuluoedd yr ymadawedig a'r rhai a anafwyd yn syth ar ôl y drychineb
Edrychodd Ymgyrch Resolve hefyd ar weithredoedd sefydliadau eraill megis y gwasanaeth ambiwlans, Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday (a gynhaliodd y gêm) a'r awdurdod lleol.
Darllenwch y Cylch Gorchwyl llawn ar gyfer Ymgyrch Resolve. Nodwch, cafodd y rhain eu diweddaru ym mis Mawrth 2022.
O ganlyniad i ymchwiliad Ymgyrch Resolve, dygwyd cyhuddiadau troseddol yn erbyn y Prif Uwcharolygydd David Duckenfield, pennaeth y gêm ar ddiwrnod trychineb Hillsborough. Yn dilyn ail brawf yn 2019, fe'i cafwyd yn ddieuog o 95 cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.
Ni ddygwyd unrhyw gyhuddiad mewn perthynas â marwolaeth Tony Bland, y nawdeg chweched unigolyn i farw. Yn ôl y gyfraith ym 1989, ni allai unrhyw gyhuddiad troseddol yn ymwneud â marwolaeth gael ei ddwyn pe bai'r dioddefwr wedii marw am fwy na blwyddyn a diwrnod ar ôl y gweithredoedd yr honnir eu bod wedi ei achosi. Cafodd y “rheol blwyddyn a diwrnod” ei ddiddymu gan ddeddfwriaeth yn 1996, ond roedd David Duckenfield yn cael ei erlyn o dan y gyfraith fel yr oedd yn berthnasol ar adeg y drychineb.
Cafwyd cyn ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, Graham Mackrell, yn euog o drosedd yn groes i Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr unwaith y bydd yr holl brosesau sy'n ymwneud â'r ymchwiliad wedi'u cwblhau.
Bydd yr adroddiad yn rhoi disgrifiad manwl o'r digwyddiadau o amgylch y drychineb a bydd yn ymdrin ag ymchwiliadau SAYH ac Ymgyrch Resolve. Bydd yn cynnwys canfyddiadau tua 150 o ymchwiliadau cwynion ac ymddygiad.
Bydd yr adroddiad hefyd yn ceisio ateb y cwestiynau niferus y mae teuluoedd, achwynwyr, goroeswyr, a rhanddeiliaid allweddol eraill wedi’u gofyn am yr hyn a ddigwyddodd cyn, yn ystod ac ar ôl y drychineb.
Daw enw’r broses Salmon oddi wrth yr Arglwydd Ustus Salmon a osododd egwyddorion Salmon am y tro cyntaf yn 1966. Mae'n weithdrefn fod ymchwiliadau cyhoeddus yn gymwys i gyhoeddi adroddiadau lle mae unigolion neu sefydliadau'n cael eu beirniadu.
Yn adroddiad ymchwiliadau Hillsborough, mae gwybodaeth sy'n gyfystyr â beirniadaeth o rai unigolion a sefydliadau - mae egwyddorion y broses Salmon yn mynnu y dylai pob unigolyn neu gorff sy'n wynebu beirniadaeth arfaethedig gael y cyfle i ymateb cyn cyhoeddi.
Rydym wedi llunio rhai cwestiynau cyffredin am y broses hon, i helpu i ddeall pam rydym yn ei gymhwyso i ymchwiliad Hillsborough, beth mae'n ei olygu a sut mae'n effeithio ar adroddiad ymchwiliad Hillsborough. Gallwch hefyd ddarllen ein diweddariad rhanddeiliaid am y broses Salmon.
Cadw deunydd ymchwiliad Hillsborough yn barhaol
Fel corff cyhoeddus, mae gennym rwymedigaeth statudol i ddewis deunydd i’w gadw’n barhaol o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus (DCH 1958). I fodloni’r rhwymedigaeth hon, byddwn yn trosglwyddo’r swm sylweddol o ddeunydd ymchwiliol newydd a grëwyd gennym fel rhan o’n hymchwiliad Hillsborough i’r Archifau Cenedlaethol (TNA).
Mae peth o'r deunydd hwn yn cynnwys dogfennau digidol a chopi caled, a deunydd clyweledol, sy'n agored i ddadfeiliad dros amser. Bydd y trosglwyddiad hwn yn gwneud y deunydd hwn yn hygyrch i'r cyhoedd trwy TNA.
Yn nodweddiadol, mae deunydd yn cael ei drosglwyddo 20 mlynedd ar ôl cau cofnodion ond, o ystyried natur proffil uchel yr ymchwiliad, rydym wedi cytuno â TNA y byddwn yn trosglwyddo cyn gynted â phosibl.
Mae deunydd a grëwyd fel rhan o’n hymchwiliad Hillsborough yn cael ei gatalogio a’i asesu gan arbenigwyr archifau a fydd yn penderfynu a fydd yn cael ei ddewis ar gyfer cadwraeth barhaol, trwy broses cadw/gwerthuso a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer deunydd Hillsborough (caiff hwn ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl).
Bydd yr holl ddeunydd a ddewisir yn destun adolygiad sensitifrwydd cyn y trosglwyddiad. Mae’r broses adolygu sensitifrwydd yn ein galluogi i wneud y deunydd hwn mor agored a hygyrch i’r cyhoedd â phosibl drwy’r Archifau Gwladol, tra’n sicrhau bod gwybodaeth sensitif a phersonol yn cael ei diogelu’n briodol.
Rydym wedi bod yn geidwaid Archif hanesyddol Hillsborough ers dros ddegawd, gyda’r mwyafrif ohono’n dod o Archifau Sheffield a Lerpwl, yr Archifau Cenedlaethol a’r Swyddfa Gartref. Mae arbenigwyr archifau wedi gofalu amdano a’i gynnal a’i gadw’n broffesiynol, a’i gynnal a’i gadw’n ffisegol mewn amgylchedd diogel, rheoledig yn ein swyddfa yn Warrington. Mae ein tîm Etifeddiaeth penodedig yn paratoi ar gyfer dychwelyd y deunydd hwn ynghyd â thrywydd archwilio cyflawn i'w ddefnyddio tra'i fod o dan ein gofal.
Rydym wedi digideiddio’r deunydd archif hanesyddol sydd gennym, na chafodd ei ddigideiddio gan Banel Annibynnol Hillsborough (HIP) i greu copi digidol llawn o archif hanesyddol Hillsborough.
Darparwyd llawer iawn o ddeunydd i'r ymchwiliad gan sefydliadau a oedd yn dal gwybodaeth berthnasol. Rydym yn cysylltu â'r sefydliadau hyn i sicrhau bod cyfraniadau gwreiddiol naill ai'n cael eu dychwelyd neu eu trosglwyddo i'r TNA fel rhan o'n deunydd ymchwilio.
Mae trefniadau hefyd yn cael eu gwneud i ddychwelyd eitemau personol i berchnogion mewn rhai amgylchiadau.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth gofnodedig a gedwir gan SAYH. Ewch i'n tudalen gofyn am wybodaeth i ddysgu mwy am sut i wneud cais. Yn dilyn trosglwyddo deunydd Hillsborough, bydd unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wneir i ni yn cael eu cyfeirio at TNA.