Mae gennych chi lais – ein hymgyrch i helpu menywod a merched i gael eu clywed

Published: 05 Sep 2024
Blog

Rydym wedi lansio ymgyrch – ‘Mae gennych chi lais’ - i atgoffa meynwod a merched am eu hawl i gwyno os ydynt erioed wedi cael eu gwneud i deimlo'n anniogel, yn anghyfforddus, neu wedi'u hanwybyddu gan yr heddlu.

Mae menywod a merched sydd wedi wynebu camdriniaeth yn cael eu gadael â thrawma eu profiad. Gallant deimlo wedi'u hesgeuluso'n eithriadol os nad ydynt wedi cael profiad da gyda heddlu ar ôl adrodd am y mater. 

Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r system gwynion a helpu i adeiladu ymddiriedaeth a hyder ymhlith menywod a merched o ddioddefwyr a goroeswyr, a'r rheini sy'n eu cynorthwyo. 

Rydym am i fenywod a merched wybod os ydyn nhw'n anhapus â'u triniaeth gan yr heddlu, bod ganddyn nhw'r hawl i godi llais, cael eu clywed a chael gwneud cwyn os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. 

Pam lansio'r ymgyrch nawr? 

Rydym yn gwybod o’n hymchwil fod hyder yn yr heddlu, a system gwynion yr heddlu, yn is nag y dylai fod, yn enwedig ymhlith menywod a merched. Mae data o'n traciwr canfyddiadau'r cyhoedd yn dangos mai 31 y cant yn unig o fenywod sy'n teimlo bod yr heddlu yn ymdrin yn deg â chwynion a wneir yn erbyn yr heddlu. Mae’r un ymchwil yn dweud wrthym fod y straeon proffil uchel am yr heddlu yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at 73 y cant o fenywod yn teimlo’n fwy negyddol am blismona.

Daw ein hymgyrch ar adeg pan mae ymateb cymdeithas i Drais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG) yn destun craffu. Amlinellodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Coileg Plismona raddfa'r her mewn adroddiad diweddar a ddangosodd fod 3,000 o droseddau trais yn erbyn menywod a merched yn cael eu cofnodi bob dydd a datganodd Drais yn Erbyn Menwyod a Merched yn argyfwng cenedlaethol. Maen nhw hefyd yn argymell gweithredu dull system gyfan sy’n dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol, cyrff llywodraeth a diwydiant ynghyd i ganolbwyntio ar waith ataliol.

Yn ogystal, mae ymchwiliadau statudol diweddar wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â diwylliant yr heddlu, arestiadau, dalfa, noeth-chwiliadau, fetio, trin dioddefwyr a goroeswyr, a methiant i ymchwilio'n briodol i honiadau a sut yr ymdrinnir â chwynion.

Trwy ein gwaith ein hunain, mae rhanddeiliaid yn dweud wrthym ei fod yn bwysig gwybod am y broses gwyno ar yr adeg gywir, yn ddelfrydol cyn i rywbeth ddigwydd. Mae hefyd angen gwybod pwy all gwyno, am beth a phryd.

Mae rhai o’r rhwystrau i fenywod a merched rhag cael mynediad i system gwynion yr heddlu yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth ac ymddiriedaeth yn y system, a’r canfyddiadau nad ydym yn annibynnol ar blismona.

Beth mae ein hymgyrch yn ei gynnwys? 

Gan weithio gyda grwpiau rhanddeiliaid, yn cynnwys sefydliadau trydydd sector, arbenigwyr ym maes trais yn erbyn menywod a merched, academyddion, cynghorwyr annibynnol ac arweinyddion plismona, rydym wedi datblygu deunyddiau, i helpu darparu'r wybodaeth gywir i fenywod a merched yn y ffordd fwyaf priodol.  

Rydym yn annog rhanddeiliaid, partneriaid ac awdurdodau lleol i rannu a hyrwyddo’r wybodaeth â’u defnyddwyr gwasanaeth a’u rhwydweithiau ac arddangos y deunyddiau mewn mannau addas. Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllaw digidol i randdeiliaid gyfeirio ato wrth gynorthwyo neu gynghori rhywun ar system gwynion yr heddlu. 

Rydym hefyd wedi creu pecyn eiriolaeth i helpu pobl i gynorthwyo rhywun i wneud cwyn. 

Gallwch ddarllen rhagor am y gwaith rydym wedi ei wneud ac yn parhau i'w wneud i fynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Mernywod a Merched. 

Tags
  • Trais yn erbyn menywod a merched