Mae SAYH yn ymchwilio i gwynion am Heddlu De Cymru a wnaed gan deuluoedd dau yn eu harddegau a fu farw yn Nhrelái
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) yn ymchwilio i gwynion am Heddlu De Cymru, a wnaed gan deuluoedd dau fachgen yn eu harddegau a fu farw yng Nghaerdydd ym mis Mai.
Roedd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn reidio ar feic trydan pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad yn ardal Trelái o’r ddinas. Dangosodd CCTV fan heddlu yn teithio'n agos y tu ôl i'r beic yn y cyfnod cyn y digwyddiad.
Rydym wedi dechrau ail ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar faterion a godwyd gan deuluoedd y bechgyn. Mae’r cwynion rydym yn eu harchwilio yn cynnwys:
- Ymateb Heddlu De Cymru a rheolaeth o leoliad y gwrthdrawiad ar noson 22 Mai
- Triniaeth y teuluoedd yn lleoliad y gwrthdrawiad
- Cyfathrebu’r heddlu â’r teuluoedd yn dilyn marwolaethau’r bechgyn.
Mae ein hymchwiliad gwreiddiol i Heddlu De Cymru a’u rhyngweithio â’r bobl ifanc yn eu harddegau cyn eu marwolaethau ar gam datblygedig.
Cwblhawyd y gwaith o gasglu tystiolaeth o'n hymchwiliadau yn Nhrelái. Rydym wedi cymryd nifer fawr o ddatganiadau gan drigolion lleol o ganlyniad i'n hymholiadau o dŷ i dŷ. Rydym wedi adolygu cannoedd o glipiau fideo yn ogystal â fideo a wisgwyd ar y corff gan swyddogion a oedd yn y lleoliad. Rydym hefyd wedi cymryd datganiadau ychwanegol gan swyddogion a staff yr heddlu. Rydym wedi cysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ac wedi adolygu llawer iawn o dystiolaeth a gasglwyd gan ein hymchwilwyr. Rydym wedi nodi rhagor o drywyddau ymholi rydym nawr yn eu dilyn fel blaenoriaeth.
Ym mis Mehefin gwnaethom gyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol i yrrwr a theithiwr y fan heddlu. Yn ogystal, ym mis Awst, fe wnaethom hysbysu gyrrwr fan yr heddlu ei fod yn destun ymchwiliad troseddol am yrru'n beryglus. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd achos disgyblu neu droseddol yn dilyn.
Cyfarwyddwr y SAYH David Ford: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau â theuluoedd a ffrindiau Kyrees a Harvey a phawb yr effeithiwyd arnynt gan eu marwolaethau cynamserol.
“Rydym yn ymchwilio’n annibynnol i nifer o gwynion a godwyd gan eu teuluoedd, sy’n ymwneud yn bennaf â’u rhyngweithio â Heddlu De Cymru ar noson y digwyddiad ac yn y dyddiau a’r wythnosau canlynol.
“Mae hyn yn ychwanegol at ein hymchwiliad gwreiddiol rydym wedi casglu a chraffu ar swm sylweddol o dystiolaeth ar ei gyfer ac rydym yn parhau i wneud cynnydd da. Bydd penderfyniadau ynghylch unrhyw gamau disgyblu ac unrhyw atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron yn cael eu gwneud ar ddiwedd ein hymchwiliad.
“Rydym yn diweddaru teuluoedd y bechgyn a Heddlu De Cymru yn rheolaidd â’n cynnydd ar y ddau ymchwiliad.”