Adroddiad Effaith
Mae ein pumed adroddiad effaith blynyddol yn canolbwyntio ar astudiaethau achos am bobl go iawn a'r effaith rydym wedi'i chael ar y cyhoedd a phlismona. Mae’r adroddiad hwn yn arddangos storïau o flwyddyn gyntaf ein strategaeth bum mlynedd newydd: Meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
Gallwch ddarllen enghreifftiau o sut rydym wedi gwella plismona ac ymdrin â chwynion yr heddlu, ein ffocws ar feysydd sy'n peri pryder i'r cyhoedd a sut y gwnaethom gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a gwella mynediad at y system gwynion.
Dengys astudiaethau achos:
- sut y gwnaethom ymdrin ag achos dyn trawsryweddol a oedd yn teimlo nad oedd ei adroddiadau o droseddau casineb wedi cael eu cymryd o ddifrif
- sut y daethom â phobl leol a’u heddlu ynghyd, ar ôl i farwolaeth dyn godi pryderon yn y gymuned leol
- sut mae ein rheolwyr ymgysylltu â goroeswyr yn camu i mewn i gefnogi achwynwyr sy’n agored i niwed neu wedi’u trawmateiddio
- sut mae ein Panel Ieuenctid wedi bod yn adeiladu pontydd drwy annog deialog rhwng pobl ifanc a’r heddlu ar Lannau Merswy
- sut rydym yn chwarae ein rhan i gael gwared â swyddogion nad ydynt yn ffit i wasanaethu
Ffeithiau allweddol o'r adroddiad Effaith
Gwyliwch ein fideo am rai ystadegau a gwybodaeth allweddol o'r adroddiad, a lawrlwythwch gopi i ddarllen y straeon bywyd go iawn.
Fideo adroddiad effaith 2022/23