Ystadegau cwynion yr heddlu
Adrannau safonau proffesiynol heddluoedd sy'n delio â'r mwyafrif o gwynion am yr heddlu. Fodd bynnag, rydym yn ymchwilio i'r cwynion a'r digwyddiadau mwyaf difrifol ac yn gosod y safonau y dylai'r heddlu ymdrin â chwynion yn eu herbyn.
Rydym yn casglu gwybodaeth gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr am y mathau o gwynion y maent yn eu derbyn a pha mor hir y maent yn cymryd i ddelio â nhw.
Mae casglu'r data hyn yn bwysig. Mae’n datblygu ein dealltwriaeth o sut mae gwahanol heddluoedd a chyrff plismona lleol yn rhedeg system gwynion leol yr heddlu. Mae hefyd yn ein galluogi i adnabod arfer da, tueddiadau a gwahaniaethau y mae angen i ni ymchwilio iddynt.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi ystadegau am y cwynion y mae heddluoedd wedi'u cofnodi. Rydym hefyd yn cynhyrchu bwletinau chwarterol ar gyfer pob heddlu.
Canfyddiadau allweddol ar gyfer 2022/23
Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth gymharu’r ffigurau o eleni â blynyddoedd blaenorol, gan fod yr ystadegau yn arbrofol, sy’n golygu eu bod yn dal yn y cyfnod profi a heb eu datblygu’n llawn eto. Er hynny, mae cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion ers y llynedd sy’n dangos bod aelodau’r cyhoedd yn fwy parod i godi eu pryderon.
- Cynyddodd cyfanswm y cwynion gan 8%. Cynnydd sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â symleiddio’r system ac ehangu diffiniad cwyn i “unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd”.
- Roedd y math o gŵyn a gofnodwyd amlaf yn ymwneud â chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth. Mae'r rhain yn aml yn ymwneud â chwynion am gyflenwi gwasanaethau megis diffyg diweddariadau neu oedi mewn ymatebion, yn hytrach na phryderon ynghylch camymddwyn yr heddlu.
- Yn y cyfamser, mae’r cynnydd yn nifer y cwynion sy’n cael eu datrys yn anffurfiol yn dangos bod mwy o gwynion yn cael eu datrys yn gyflym, fel y bwriadwyd gan y system newydd, gyda llai o gwynion yn arwain at ymchwiliadau maith. Mae hyn i'w groesawu. Mewn llawer o achosion mae'r rhain yn cael eu disodli gan ymatebion sy'n fwy cymesur gydag esboniadau ac ymddiheuriadau priodol. Mewn gwirionedd, dyblodd nifer yr achosion lle rhoddwyd esboniad neu ymddiheuriad i ddatrys cwyn.
Os na allwch ddod o hyd i'r data rydych yn chwilio amdanynt ar y dudalen hon, mae ein hystadegau cwynion blaenorol ar gael ar ein gwefan Archifau Cenedlaethol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein hystadegau cwynion heddlu, cysylltwch â'n tîm perfformiad.