Datganiad gan uwch Gyfarwyddwr anweithredol yr IOPC, Julia Mulligan
“Penododd Bwrdd Unedol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) Tom Whiting yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro mewn cyfarfod arbennig ar ddydd Sul 4 Rhagfyr.
“Ymddiswyddodd Michael Lockwood o’r swydd ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr ar unwaith. Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cadarnhau bod Mr Lockwood yn destun ymchwiliad heddlu i mewn i honiad hanesyddol.
“Yn unol â’r Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, mae penodiad Mr Whiting wedi cael ei gadarnhau gan yr Ysgrifennydd Cartref y mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn uniongyrchol atebol iddo. Mae Mr Whiting wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC ers mis Chwefror 2019.
“Mae’n hanfodol bod yr IOPC yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac rydym yn hyderus y gall Mr Whiting ddarparu’r arweiniad a’r sicrwydd angenrheidiol i’n staff a’n rhanddeiliaid ar yr adeg heriol hon, hyd nes y penodir cyfarwyddwr cyffredinol parhaol.”