Adroddiad effaith yr IOPC 2021/22 – Ymgysylltu, dysgu a gwella
Mae’r IOPC wedi cyhoeddi ei bedwerydd adroddiad Effaith 2021/22, sy’n nodi ein cyflawniadau a sut rydym wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blismona.
Mae ein hadroddiad yn defnyddio astudiaethau achos am bobl go iawn i ddangos ein heffaith ac mae'n cynnwys fformat byrrach newydd.
Er gwaethaf yr aflonyddwch parhaus a achosir gan y pandemig COVID-19, fe wnaethom barhau i berfformio'n dda. Cwblhawyd 90% o'n hymchwiliadau craidd o fewn 12 mis, gan ragori ar ein targed, a thros draean o'n hymchwiliadau craidd o fewn chwe mis.
Mae adnabod a rhannu dysgu er mwyn gwella plismona yn rhan bwysig o’n gwaith. Gwnaethom 180 o argymhellion a arweiniodd at well hyfforddiant, gwell polisïau a chanllawiau, a newidiadau i'r ffordd y mae swyddogion yn cyflawni eu rôl. Fe wnaethom gyhoeddi ein cylchgrawn Learning the Lessons ar ymdrin â chwynion yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol. Roedd yn cynnwys gwybodaeth gwerthfawr am sut i ymdrin yn well â chwynion yn y maes hwn a sut i atal camgymeriadau rhag ddigwydd eto.
Drwy wrando ac ymateb i’r materion sydd bwysicaf i’r cyhoedd, rydym yn helpu i wella hyder y cyhoedd mewn plismona. Roedd ein gwaith thematig ar bynciau fel defnyddio Taser a Stopio a Chwilio yn ein galluogi i nodi materion systemig ar draws plismona a mynd i’r afael â nhw drwy argymhellion dysgu. Mae ein hadroddiad yn cynnwys astudiaethau ar sut yr arweiniodd ein hargymhellion at welliannau cenedlaethol mewn plismona.
Fe wnaethom barhau â'n hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, trwy fentrau fel ein rhaglen fentora o'r chwith, rhwydweithiau staff, a Rhaglen Darpar Broffesiynolion. Roedd dros 80% o'n staff yn cytuno bod yr IOPC yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae gwelliannau yn y maes hwn wedi ein helpu i adlewyrchu a gwasanaethu'r cyhoedd yn well.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Michael Lockwood: “Mae ein hadroddiad Effaith 2021/22 yn amlinellu ein cyflawniadau ar ddiwedd ein strategaeth tair blynedd ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Rydym yn dangos ein heffaith, nid yn unig drwy rai mesurau allweddol cryf megis gwelliannau i amseroldeb, ond hefyd drwy ein hastudiaethau achos bywyd go iawn, sy'n dangos sut rydym yn gwneud gwahaniaeth.
“Darllenwch ein hadroddiad Impact i ddarganfod mwy am ein gwaith a sut rydym wedi gwneud gwahaniaeth trwy ddwyn yr heddlu i gyfrif, ymgysylltu â chymunedau, a nodi a rhannu dysgu i wella ymarfer yr heddlu.”
Rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022, rydym wedi:
- cwblhau 90% o ymchwiliadau craidd o fewn 12 mis (5% yn uwch na’r targed)
- penderfynu nad oedd canlyniad 1/3 o adolygiadau dilys yn rhesymol a chymesur
- dewis 53% o’n hymchwiliadau mewn meysydd thematig sy’n peri’r pryder mwyaf i’r cyhoedd (h.y. stopio a chwilio)
- gwneud 180 o argymhellion dysgu
- ffeindio bod 93% o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn gan heddluoedd a sefydliadau
- cyhoeddi Dysgu Gwersi, rhifyn 39 ar gam-drin plant yn rhywiol, a rhannwyd â 1,500 o bobl
- derbyn dros 22,000 o alwadau gan y cyhoedd
- cynnal 248 o sesiynau ymgysylltu
- codi mwy o ymwybyddiaeth o’r IOPC o hanner yn 2019 i ddwy ran o dair yn 2021/22 (ffynhonnell: Adroddiad Traciwr Canfyddiadau Cyhoeddus yr IOPC)
- cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau lleiafrifoedd ethnig o 2021 bron i 10% i 57% (ffynhonnell: Adroddiad Traciwr Canfyddiadau Cyhoeddus)
- uwchsgilio ein staff trwy gwblhau 264 o gyrsiau dysgu a datblygu
- wedi derbyn gwobr Cyflogwr Arian Stonewall
- cyflawni ein hachrediad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid® a chawsant eu cydnabod yng ngwobrau Assessment Services Ltd
- ffeindio bod 81% o ymatebwyr yr arolwg staff yn cytuno bod yr IOPC yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle