IOPC yn cyhoeddi ystadegau ar gwynion a wnaed yn erbyn yr heddlu yn 2020/21
Heddiw cyhoeddodd y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei adroddiad blynyddol ar gwynion yr heddlu yn 2020/21.
Dyma'r ystadegau cwynion cyntaf i gael eu cyhoeddi ers symud i system newydd o gofnodi cwynion, o dan reoliadau newydd yn y Ddeddf Plismona a Throsedd, a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2020.
Mae ffigurau heddiw yn cyflwyno gwahanol ddata o adroddiadau cwynion blynyddol blaenorol oherwydd y newidiadau mewn deddfwriaeth a newidiadau i'r categorïau cwynion.
O ganlyniad, mae'r ffigurau hyn yn 'ystadegau arbrofol' fel y'u diffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n eu disgrifio fel 'cyfres o ystadegau sydd yn y cyfnod profi ac nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto'. Am y rheswm hwn, mae angen bod yn ofalus wrth drin unrhyw gasgliadau am dueddiadau ac ni ellir eu cymharu'n ystyrlon â blynyddoedd blaenorol.
Mae cwyn ynghylch yr heddlu yn fynegiant o anfodlonrwydd gan aelod o'r cyhoedd ynghylch y gwasanaeth a gafodd gan lu’r heddlu.
Mae'r adroddiad yn dangos:
Cwynion a gofnodwyd:
- Yn 2020/21 cofnodwyd 67,732 o achosion cwyno a chofnodwyd 36,365 o'r rhain yn ffurfiol – mae hyn yn defnyddio'r diffiniad newydd o gŵyn yn y Ddeddf Plismona a Throsedd.
- Gall achos cwyn gynnwys nifer o honiadau – cofnodwyd 109,151 o honiadau
- Achwynodd 62,606 o bobl am yr heddlu, roedd 55% o'r achwynwyr yn ddynion. Y grŵp oedran mwyaf cyffredin i gwyno oedd y rhai 30-39 oed (20%). Ble'n hysbys, roedd y mwyafrif o'r achwynwyr yn Wyn (47%).
- Roedd 38,982 o bobl a oedd yn gwasanaethu gyda'r heddlu yn destun cwyn. Roedd 67% o'r rhai y cwynwyd amdanynt yn ddynion a lle roeddent yn hysbys, roedd 81% yn Wyn.
Delio â chwynion:
- Cwblhaodd heddluoedd 32,012 o honiadau ar achosion cwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol y tu allan i ofynion Atodlen 3 Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 sy'n nodi gofynion cyfreithiol ar gyfer delio â chwynion.
- Ar gyfartaledd, cymerodd yr honiadau hyn 20 diwrnod gwaith i'w cwblhau.
- Ymdriniwyd â 45,205 o honiadau yn ffurfiol ond ni ymchwiliwyd iddynt ac ar gyfartaledd cymerodd 57 diwrnod i'w cwblhau.
- Ymchwiliwyd yn ffurfiol i 6,533 o honiadau ac ar gyfartaledd cymerodd 106 diwrnod i'w cwblhau.
Canlyniadau cwynion:
O ystyried statws arbrofol yr ystadegau hyn, mae angen bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau am y canlyniadau yr adroddir arnynt. Ni fydd pob cwyn a gofnodwyd yn 20/21 wedi ei gwblhau ac felly dim ond llun rhannol yw'r canlyniadau hyn.
- Cwblhawyd 41% o'r achosion a gafodd eu trin yn anffurfiol gydag esboniad yn cael ei roi i'r achwynydd. Ni arweiniodd 31% o achosion at gamau pellach. Roedd dysgu a gweithgaredd myfyriol yn ganlyniadau 14% o achosion a gafodd eu trin yn anffurfiol.
- O'r 23,243 o achosion cwyno yr ymdriniwyd â hwy o dan Atodlen 3 yn 2020/21, roedd gan fwy na hanner (57%) o leiaf un honiad a arweiniodd at beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
- Roedd gan 18 achos cwyn o leiaf un honiad a arweiniodd at naill ai cyfarfod neu wrandawiad camymddwyn.
- Mewn mwy na 40% o'r honiadau cwyn a gwblhawyd, cymerodd yr heddlu rai camau; roedd hyn yn amrywio o roi esboniad (24%), canlyniadau dysgu (9%), atgyfeirio i broses adolygu ymarfer myfyriol (4%), neu ganlyniadau eraill (6%).
- Ymdrinnir ag adolygiadau gan y corff adolygu priodol. Derbyniodd cyrff plismona lleol (LPB) 4,346 adolygiad a chadarnhawyd 15% o'r rhai a gafodd eu trin heblaw trwy ymchwiliad, a 19% o'r rhai a oedd yn destun ymchwiliad.
- Deliodd yr IOPC â 969 o adolygiadau a chadarnhaodd 32% o'r rheini.