Mae’r IOPC yn croesawu adroddiad sy’n ceisio mynd i’r afael â defnydd anghymesur o stopio a chwilio gan yr heddlu
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn croesawu adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (26 Chwefror) gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) sy’n adlewyrchu ein pryderon ynghylch defnydd yr heddlu o bwerau stopio a chwilio a’r defnydd o rym yn erbyn pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).
Mae’r defnydd anghymesur o’r pwerau hyn o fewn rhai cymunedau wedi bod yn destun pryder ers tro ac mae adroddiad heddiw yn atgyfnerthu ymhellach yr angen am newid gwirioneddol y mae mawr ei angen er mwyn gwella hyder y cyhoedd mewn plismona.
Canfu HMICFRS fod heddluoedd yn dal i fethu esbonio pam mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio'n anghymesur ar sail ethnigrwydd ac mewn perygl o golli ymddiriedaeth os na allant ddangos bod y defnydd o stopio a chwilio a'r defnydd o rym yn deg.
Codwyd yr un pryderon gennym llynedd ac ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd dechrau'r gwaith â ffocws cynyddol ar ymchwiliadau sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil er mwyn nodi'r tueddiadau a'r patrymau a allai helpu i ysgogi'r newidiadau ystyrlon sydd eu hangen.
Gwnaethom hefyd ddechrau adolygiad o gwynion o ddefnydd o Taser, sydd â'r nod o adnabod cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella. Mae’r adolygiad yn mynd rhagddo'n dda ac rydym wedi edrych ar fwy na 100 o’n hymchwiliadau yn ymwneud â defnydd o Taser ers 2015, gan gynnwys dadansoddi’r rhai lle roedd honiadau o wahaniaethu ar sail hil.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC, Michael Lockwood: “Mae’n hanfodol bod gan heddluoedd ymddiriedaeth a hyder y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Dyna pam mae’r gwaith rydym ni a’n partneriaid, fel HMICFRS, yn ei wneud mor hanfodol i gefnogi atebolrwydd yr heddlu am y pwerau a ymddiriedwyd iddynt.
“Dim ond trwy ddeall achosion yr anghymesuredd hwn - a helpu swyddogion i ddeall yn llawn sut mae eu defnydd o stopio a chwilio a defnyddio grym yn effeithio ar y rhai yr effeithir arnynt fwyaf - y gallwn ddechrau gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Mae adroddiad HMICFRS yn tynnu sylw at y newid sylfaenol y mae angen i ni ei weld yn niwylliant plismona o ran bod yn agored ac yn atebol pan godir pryderon.
“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn a’i ganfyddiadau, sy’n adlewyrchu’r hyn a ddywedwyd wrthym gan gymunedau fel rhan o’n gwaith. Dyna pam y gwnaethom 11 o argymhellion ym mis Hydref i helpu Gwasanaeth Heddlu Llundain i wella ei ddefnydd o stopio a chwilio, a derbyniwyd pob un ohonynt gan yr heddlu.
“Rwy’n ymwybodol fod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn parhau i weithio ar ei gynllun gweithredu ar gyfer cynhwysiant a chydraddoldeb hiliol mewn plismona a gobeithio y bydd adroddiad heddiw, yn ogystal â’n gwaith i ysgogi’r newid gwirioneddol sydd ei angen mewn plismona, yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel rhan o’r prosiect hwn.”