Cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad Hillsborough a reolir (Ymgyrch Resolve) – 4 Mehefin 2024

Published 20 Jan 2022
Ymchwiliad

Yr ymchwiliad i’r digwyddiadau yn arwain at, ac yn cynnwys, trychineb Hillsborough ar 15 Ebrill 1989. Mae hwn yn ymchwiliad a reolir a oruchwylir gan SAYH, a gyflwynir gan Ymgyrch Resolve.

Ym mis Ionawr 2022, gwnaed rhai mân ddiwygiadau i’r Cylch Gorchwyl (ToRs) ar gyfer ymchwiliadau SAYH ac Ymgyrch Resolve i drychineb Hillsborough a nodir isod.

  1. I adlewyrchu’r newidiadau yn enwau sefydliadau (e.e. yr IPCC i SAYH, Awdurdodau Heddlu i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a diweddaru pwy yw Penderfynwr Hillsborough.
  2. Er mwyn sicrhau bod ein pwerau cyfreithiol yn cael eu cynrychioli’n fwy cywir a’u bod yn gallu gwrthsefyll craffu cyn i Benderfynwr Hillsborough, Sarah Green, gwblhau ei phenderfyniadau. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn rheolaidd ar draws holl ymchwiliadau SAYH.
  3. Yn dilyn adolygiad o'r Cylch Gorchwyl yn erbyn yr honiadau yn yr adroddiadau cwynion, rydym wedi nodi rhai bylchau ac wedi diwygio'r Cylch Gorchwyl i sicrhau bod pob honiad o gŵyn yn cael ei gynnwys.

Nodwch: Mae’r Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu’n barhaus ac o ganlyniad, yn Awst 2022 cafodd ei ddiweddaru i gynnwys rhai materion ymddygiad penodol yn ymwneud â chyn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr Mervyn Jones. Mae’r materion hyn yn ymwneud ag ymddygiad Mr Jones tra roedd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl a Phrif Gwnstabl Cwnstabliaeth Swydd Gaer.

Lawrlwytho cyhoeddiad
Maint y ffeil 185.18 KB | Math o ffeil PDF