Hysbysiad preifatrwydd a chwcis
Hysbysiadau preifatrwydd a pholisïau
Mae ein hysbysiadau a'n polisïau yn adlewyrchu ein hymrwymiad i safonau moesegol uchel ac i gynnal system lywodraethu leol agored a gonest. Maent wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddeall sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu’r wybodaeth bersonol sydd gennym, ac i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddefnyddio’r wefan hon.
Gallwch lawrlwytho ein hysbysiadau preifatrwydd ar:
- ein busnes craidd, gan gynnwys ymchwiliadau a gwaith achos
- adnoddau dynol
- caffael
- ymgysylltu â rhanddeiliaid
- COVID
Gallwch hefyd ddarllen ein dogfennau polisi yn ymwneud â'n swyddogaethau craidd ac adnoddau dynol.
Sicrhau bod gwybodaeth ar gael
Mae’r dudalen hon yn cynnig arweiniad ar amrywiaeth o faterion ynghylch sut mae’r IOPC yn darparu gwybodaeth neu ddogfennau sy’n ymwneud ag achosion. Bwriedir iddi helpu aelodau o staff wrth ystyried os dylid datgelu dogfen neu wybodaeth drwy nodi rhai o'r ystyriaethau sylfaenol. Fodd bynnag, mae'n rhaid barnu pob achos yn ôl ei rinweddau ac mewn rhai achosion bydd rheswm da dros wyro oddi wrth y canllawiau hyn. Nid yw'n ddatganiad pendant o'r hyn y dylid ei ddatgelu mewn unrhyw achos penodol.
Trefnu bod gwybodaeth ar gael (Mae trefnu bod gwybodaeth ar gael hefyd ar gael yn y Gymraeg).
Defnyddio'r wefan hon
Nid ydym yn dal nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n cyrchu'r wefan hon, ac eithrio lle rydych yn dewis yn wirfoddol i ddarparu'ch manylion trwy e-bost neu trwy gwblhau ffurflen ar-lein.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn unig at ddibenion prosesu eich ffurflen ac ni fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth i drydydd partîon heblaw am lle mae'n angenrheidiol ym mherfformiad cywir ein swyddogaethau o dan y Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Dylid cyfeirio cwestiynau am y datganiad hwn at yr IOPC, drwy e-bost at enquiries@policeconduct.gov.uk
neu drwy'r post at:
IOPC
10 South Colonnade
Canary Wharf
Llundain
E14 4PU
y Deyrnas Unedig
Pa wybodaeth mae’r IOPC yn ei chasglu?
Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan gallwch ddarparu dau fath o wybodaeth:
- gwybodaeth bersonol rydych yn dewis i'w darparu a gesglir ar sail unigol, e.e. unrhyw ffurflenni ymholiad y byddwch yn eu llenwi a thrwy unrhyw e-byst y byddwch yn eu hanfon.
- gwybodaeth a gesglir yn awtomatig yn gyffredinol wrth i chi ac eraill bori'r wefan (er enghraifft, pa dudalennau gwe yr ymwelir â nhw fwyaf neu pa dudalennau y mae ymwelwyr yn treulio'r amser mwyaf arnynt).
Gwybodaeth bersonol y byddwch yn dewis i'w ddarparu
Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan ymwelwyr: adborth (trwy e-byst), cwestiynau am yr IOPC, a cheisiadau am yrfaoedd.
Sut ydym ni'n defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni?
Lle mae'n ofynnol i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol, fel pan fyddwch yn tanysgrifio i fwletin newwyddion, bydd eich gwybodaeth yn caniatáu i ni anfon newyddion a chyhoeddiadau parhaus atoch trwy e-bost.
Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth gyffredinol am batrymau defnydd gwefan ymwelwyr i weld pa rannau o'r wefan sy'n boblogaidd. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu ein gwefan.
Cwcis
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio’n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.
- Cwci Sesiwn (angenrheidiol): Defnyddir gan Drupal i wneud i'r wefan weithio'n gywir. Dod i ben: Sesiwn
- JS Cookie (angenrheidiol): Defnyddir gan Drupal i nodi os oes gan borwr yr ymwelydd JavaScript neu beidio i wneud i'r wefan weithio'n gywir. Dod i ben: Sesiwn
- Argaeledd Uchel: Cydbwyswr Llwyth Gwefan (angenrheidiol): Wedi'i greu, ei ddiweddaru a'i ddefnyddio'n gyfan gwbl gan y Cydbwyswyr Llwyth i gysylltu sesiwn porwr â gweinydd gwe penodol yn y clwstwr. Yn cynnwys dynodwr mewnol o'r gweinydd sy'n trin y defnyddiwr. Nid oes unrhyw wybodaeth adnabyddadwy o gwbl. Ni fydd rhwystro'r cwci hwn yn cael unrhyw effaith ar ddefnyddwyr dienw, ond mae'n helpu i gynnal cysondeb storfa pan fydd golygydd wedi mewngofnodi i'r wefan. Dod i ben: Sesiwn
- Cwci Cydymffurfiaeth (angenrheidiol): Defnyddir i gofnodi os yw ymwelwyr wedi gweld neges am gwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan neu beidio, fel rhan o gydymffurfio â chyfreithiau cwcis y DU. Dod i ben: 90 diwrnod
- Cwcis dadansoddol (_ga): Mae Google Analytics yn ein helpu i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd ar wybodaeth am ei ddefnydd. Dod i ben: 3 diwrnod
Sut ydw i'n newid fy ngosodiadau cwci?
Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis trwy osodiadau'r porwr. I ddarganfod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.aboutcookies.org neu https://www.allaboutcookies.org. I optio allan o gael eich holrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i https://tools.google.com/dlpage/gaoptout.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y dudalen hon. Mae adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut mae'n cael ei defnyddio, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y mae'n cael ei rhannu â phartîon eraill.
Mynediad at eich gwybodaeth
Os ydych yn dymuno gweld cofnodion unrhyw ohebiaeth rydych weddi'i hanfon at yr IOPC, neu os oes gennych ymholiad neu gŵyn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y safle, gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio requestinfo@policeconduct.gov.uk.