Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau y mae pobl yn aml yn eu gofyn i ni am ein gwaith, a’r broses gwyno.
Ein gwaith
Mae gennym Gyfarwyddwr Cyffredinol, sy'n arwain y tîm gweithredol a hefyd yn cadeirio ein Bwrdd, sy'n cynnwys chwe chyfarwyddwr anweithredol. Darganfyddwch fwy am ein tîm arwain.
Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gwneud y penderfyniadau allweddol ar gyfer y sefydliadau am bethau fel ein strategaeth gyffredinol a ble i flaenoriaethu adnoddau.
Gwneir penderfyniadau am ymchwiliadau gan y penderfynwr ar gyfer yr ymchwiliad penodol hwnnw.
Ydym – nid ydym yn rhan o’r heddlu na’r llywodraeth, ac yn gwneud ein penderfyniadau’n annibynnol.
Darganfyddwch fwy am ein hannibyniaeth a'n llywodraethiant.
Na. Heddluoedd sy'n gyfrifol am system ddisgyblu'r heddlu ac fe'i gweinyddir ganddynt.
Cyhoeddir gwybodaeth a gofnodwyd gan heddluoedd am ganlyniadau camymddwyn ac ymchwiliadau troseddol gan y Swyddfa Gartref. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â'n hymchwiliadau, a hefyd ymchwiliadau a gyflawnir gan yr heddlu.
Na, nid ydym yn cyflogi swyddogion heddlu sy'n gwasanaethu.
Yn ôl y gyfraith, ni all ein Cyfarwyddwr Cyffredinol fod wedi gweithio i'r heddlu. Nid oes yr un o’n tîm gweithredol, cyfarwyddwyr rhanbarthol, na’n Cyfarwyddwr dros Gymru wedi gweithio i’r heddlu chwaith.
Mae tua 20% o'n staff mewn swyddi eraill, gan gynnwys ein hymchwilwyr, wedi gweithio i heddluoedd mewn rolau heddlu neu rolau sifil. Rydym yn gwerthfawrogi'r profiad a'r persbectif y mae ein staff yn eu rhoi i'r gwaith a wnawn, beth bynnag yw eu cefndir.
Cynhelir ein holl ymchwiliadau ar ran y Cyfarwyddwr Cyffredinol ond fe'u cynhelir gan ymchwilwyr sy'n gweithio o un o'n swyddfeydd rhanbarthol.
Dysgwch fwy am ein hymchwiliadau a sut maen nhw'n gweithio.
Mae gennym bwerau cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i heddluoedd ddarparu unrhyw ddeunydd y credwn a fydd yn helpu ein hymchwiliadau.
Mae gan ein hymchwilwyr bwerau cwnstabl heddlu, gan gynnwys y pŵer i arestio, a gallwn fynd i mewn i adeiladau'r heddlu i weld ac atafaelu unrhyw ddeunydd sy'n berthnasol i'n hymchwiliadau.
Rydym yn gweithio gyda Leaders Unlocked i recriwtio pobl ifanc 16-24 oed o bob rhan o Loegr a Chymru.
Yna mae'r panel yn gweithio gyda ni i ddeall pam mae gan bobl ifanc hyder isel yn system gwynion yr heddlu a sut y gallwn newid hyn.
Mae fersiynau blaenorol o'n gwefan a chyhoeddiadau cyfatebol ar gael ar ein gwefan Archifau Cenedlaethol.
I dderbyn rhifynnau o'n cylchgrawn Dysgu'r Gwersi yn y dyfodol, e-bostiwch [email protected].
Darllenwch y rhifynnau diweddaraf a blaenorol o Dysgu'r Gwersi.
I archwilio ein swyddi gwag newydd, ewch i'n porth recriwtio
Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Gweithio i ni i gael rhagor o wybodaeth am y math o sefydliad ydym ni, a'r math o rolau sydd gennym ni.
Ewch i'n tudalen cysylltu â ni i ddarganfod sut y gallwch chi gysylltu â ni.
System gwynion yr heddlu
Ewch i’n canllaw gwneud cwyn i gael gwybod sut i gwyno, pwy sy’n ymchwilio a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn.
Mae'n rhaid i heddluoedd gyfeirio'r digwyddiadau mwyaf difrifol atom ni; os yw rhywun wedi gwneud cwyn neu beidio. Er enghraifft, os yw gweithredu gan yr heddlu yn arwain at aelod o’r cyhoedd yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n marw:
- tra yn y ddalfa
- ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â’r heddlu
- o ganlyniad i saethu gan yr heddlu
- mewn damwain ffordd yn ymwneud â’r heddlu
Gall yr heddlu hefyd atgyfeirio digwyddiadau atom ni os oes ganddynt bryderon am ymddygiad eu swyddogion neu staff. Yn 2022/23 cawsom fwy na 6,000 o atgyfeiriadau gan yr heddlu, ond nid ydym yn ymchwilio’n annibynnol i’r mwyafrif ohonynt.
Na. Gallwn argymell bod ymddiheuriad yn cael ei gynnig, ond ni allwn gyfarwyddo'r heddlu i wneud hyn.
Na. Nid yw ein cylch gorchwyl yn cwmpasu hawliadau am iawndal gan yr heddlu.
Os ydych am fynd ar drywydd unrhyw hawliadau ariannol yn erbyn yr heddlu, dylech gysylltu â'r heddlu dan sylw. Gallwch hefyd gysylltu â'ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol am ragor o wybodaeth neu i geisio cyngor cyfreithiol.
Nid yw'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn dod o dan ein hawdurdodaeth. Dylech godi unrhyw anghydfod am yr wybodaeth ar eich Datgeliad Cofnodion Troseddol yn uniongyrchol gyda’r DBS.
Os ydych wedi gwneud cais am wiriad DBS ond yn profi oedi, dylech gysylltu â’r DBS yn uniongyrchol. Os bydd eich cwyn i’r DBS yn datgelu mai cyfrifoldeb yr heddlu lleol yw’r oedi, yna gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r heddlu dan sylw.