Rhaid sicrhau nad oes gan y rhai sy’n camddefnyddio’u statws er dibenion rhywiol, unman i guddio rhag yr heddlu

Published: 25 Oct 2021
News

Nid oes croeso yn y maes plismona i swyddogion heddlu na staff sy’n camddefnyddio’u statws er dibenion rhywiol a chânt eu dal. Dyma yw rhybudd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wrth i ffigurau newydd ddangos sut mae ymdrechion i daclo’r broblem wedi arwain at gynnydd yn y nifer o droseddwyr sy’n cael eu dwyn i gyfrif.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r nifer o bobl sy’n wynebu camau disgyblu o ganlyniad i ymchwiliadau annibynnol yr IOPC i gamddefnyddio statws er dibenion rhywiol (APSP) wedi cynyddu’n aruthrol.

Rhwng 2018 a 2021, bu i 66 o swyddogion a staff yr heddlu wynebu camau disgyblu – 42 y llynedd yn unig – wedi iddynt gael eu hymchwilio am APSP. Profwyd camymddygiad yn achos 63 ohonynt.

O’r 52 o unigolion a wynebodd gamau o gamymddygiad difrifol, nid yw 73 y cant (38) ohonynt yn gwasanaethu a chawsant eu gwahardd rhag plismona fyth eto. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 7 o unigolion eu herlyn am droseddau hefyd, gan arwain at chwech o euogfarnau a thri o bobl yn cael eu carcharu.

Dywedodd Claire Bassett, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol: "Mae’r math hwn o ymddygiad yn gamfanteisio difrifol ar ymddiriedaeth y cyhoedd ac mae’n cael effaith echrydus ar y bobl ynghlwm, sydd yn aml mewn sefyllfa fregus iawn. Mae’r heddlu yma i’w helpu, nid i gamfanteisio arnynt.

"Fe welwn sut mae ein gwaith yn helpu i daclo’r broblem – mae swyddogion llygredig wedi cael eu diswyddo a’u heuogfarnu. Rydym hefyd wedi cynnig amryw o argymhellion i helpu heddluoedd i adnabod a thaclo’r ymddygiad hwn.

"Mae digwyddiadau diweddar gan wedi’n hatgoffa ni bod yn rhaid i blismona gael gwared ar y math hwn o ymddygiad unwaith ac am byth. "Nid problem newydd yw hon ac er bod dymuniad amlwg ar draws yr holl heddluoedd i daclo hyn, a gwnaed peth cynnydd, mae llawer iawn o waith eto i’w wneud."

Wedi iddo adnabod nad yw rhai heddluoedd yn trin achosion o APSP fel math o lygredigaeth, bu i ragflaenydd yr IOPC, sef Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yrru’r ymdrech i newid y meini prawf atgyfeirio, gan arwain at gynnydd sylweddol a chyson yn y nifer o atgyfeiriadau ac ymchwiliadau annibynnol.

Heddiw, APSP yw’r achos sengl mwyaf cyffredin o lygredigaeth gan yr heddlu a ddelir gan yr IOPC, gan gyfrif am tua chwarter o’r holl atgyfeiriadau o lygredigaeth y llynedd, a bron i 60 y cant ymchwiliadau o lygredigaeth.

Ychwanegodd Ms Bassett: "Mae pob achos yn bygwth tanseilio’r ymddiriedaeth y mae’r mwyafrif helaeth o swyddogion yn ymdrechu’n galed i’w meithrin. Mae canfod y rhai sy’n camddefnyddio’u statws o fudd i bawb, ac mae’n hanfodol bod pawb sy’n profi neu sy’n dyst i’r math annerbyniol hwn o ymddygiad, yn teimlo bod ganddynt y gallu i leisio’u pryderon.

"Fe welwn yr effaith ddinistriol y gall APSP ei gael ar fywydau’r rhai sydd wedi cael eu camfanteisio gan rai mewn awdurdod, weithiau dan yr argraff bod y troseddwyr yn eu helpu neu mewn perthynas ymrwymedig ag ef neu hi.

"Gwelsom amryw o achosion lle gall weithrediadau sy’n ymddangos yn ddiniwed i ddechrau – megis anfon negeseuon o ffôn personol neu gusanau ar ddiwedd neges destun – fod yn ddechrau ar batrwm o ymddygiad sy’n dwysau.

"Ni ddylai neb fyth deimlo’n anghyfforddus gyda’r anallu i herio ymddygiad unigolyn arall oherwydd ei swydd. Wrth wraidd yr hyn a wnawn yw sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau annibynnol i’w helpu gyda’r effeithiau tymor byr a hirdymor y gallai APSP eu cael arnynt. Byddem yn annog unrhyw un yn y sefyllfa hon i siarad efo rhywun. Nid ydych ar eich pen eich hun; fe gewch wrandawiad; a bydd eich profiadau yn cael eu trin o ddifrif."

Ceir gwybodaeth am ffyrdd y gall y cyhoedd gyflwyno cwyn am yr heddlu ar ein gwefan. Gall swyddogion heddlu a staff adrodd unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad troseddol neu gamymddwyn drwy ein llinell chwythu chwiban. Ceir manylion ar wefan yr IOPC.

Tags
  • Llygredd a cham-drin pŵer