Mae’r IOPC yn galw ar heddluoedd i atgyfeirio achosion o ddefnyddio Taser ar blant ar ôl adolygiad

Published: 28 Apr 2022
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi gofyn i heddluoedd yn Lloegr ac yng Nghymru i atgyfeirio pob achos o ddefnyddio Taser ar gyfer plant dan 18 oed lle mae cwyn neu fater ymddygiad wedi codi.

Nod y cam hwn yw i gynyddu craffu cenedlaethol ar ddefnyddio Taser gan yr heddlu ar blant sy'n faes sydd yn peri pryder i ystod eang o randdeiliaid.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i heddluoedd atgyfeirio achosion o ddefnyddio Taser ar blant i'r IOPC pan fodlonir meini prawf penodol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddefnydd sy'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol.

Gyda chefnogaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC), rydym wedi ysgrifennu at bob heddlu yn eu hannog i wneud atgyfeiriadau perthnasol o 1 Mai 2022. Ar ddiwedd cyfnod o chwe mis, byddwn yn adolygu’r data ac yn penderfynu a ddylai defnyddio Taser ar blant fod yn destun atgyfeiriad gorfodol i’r IOPC. Byddai mesur o'r fath yn gofyn am newid i ddeddfwriaeth. 

Mae ein penderfyniad yn dod ar ôl adolygiad o’n hachosion yn ymwneud â Taser ac mae’r ymatebion a gawsom i’n hargymhellion bellach wedi cael eu cyhoeddi. Edrychodd yr adolygiad ar 101 o ymchwiliadau annibynnol yr IOPC, data presennol ac ymchwil ac ystyriodd farn amrywiaeth o grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC, Michael Lockwood: “Yn dilyn ein hadolygiad a’n hargymhellion, rydym nawr yn gofyn i heddluoedd atgyfeirio pob achos o ddefnyddio Taser sy’n ymwneud â phlant atom ni ble mae cwyn neu fater ymddygiad. Rydym am gael gwell gwybodaeth am amgylchiadau pob digwyddiad, a pham y teimlai swyddog heddlu fod angen ei ddefnyddio. Rydym yn falch bod yr NPCC yn gweithio gyda ni ar faes o ddiddordeb a phryder cyhoeddus sylweddol.

“Rydym yn ddiolchgar am yr ymateb i’n hadolygiad. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod pob cymuned a rhanddeiliad yn hyderus yn nefnydd yr heddlu o Taser. Mae'n galonogol fod ffocws parhaus ar y materion yr ydym wedi'u nodi, gan gynnwys newidiadau i hyfforddiant swyddogion heddlu a gyflwynir gan y Coleg Plismona. Rydym yn deall bod yr NPCC, gyda'r Coleg, yn atgyfnerthu hyfforddiant er mwyn ymdrin â materion fel anghymesuredd, defnyddio Taser ar uchder, wrth redeg, a defnydd o flaen plentyn, ynghyd â mwy o eglurder na ddylid defnyddio Taser ar gyfer cydymffurfio yn unig.

“Rydym yn cydnabod bod Taser yn arf cyfreithlon i swyddogion heddlu ac maent yn parhau i fod ar gael i fwy o swyddogion nag erioed o’r blaen. Mae gwahaniaeth barn yn parhau rhwng disgwyliadau’r gymuned ynghylch pryd y dylid ddefnyddio Taser, a’r sefyllfaoedd ble gellir ddefnyddio Taser yn gyfreithlon o dan y canllawiau cenedlaethol cyfredol. Mae'n rhaid i'r defnydd o Taser fod yn rhesymol ac yn gymesur â'r bygythiad y mae swyddogion yn wynebu, ac ni ddylai defnyddio Taser weithredu fel y dacteg ddiofyn pan fydd rhai eraill ar gael. Mae'n rhaid i heddluoedd allu cyfiawnhau i’r cyhoedd pa amgylchiadau a arweiniodd atynt yn defnyddio Taser wrth i ni geisio sicrhau mwy o dryloywder rhyngddynt a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

Rydym hefyd wedi cytuno i rannu data am yr holl ddigwyddiadau Taser sy'n arwain at anaf difrifol, â'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Oblygiadau Meddygol Arfau Llai Angheuol (SACMILL). Bydd hyn yn helpu i ehangu’r gronfa dystiolaeth y gallwn ni, a chyrff eraill, ei defnyddio er mwyn nodi unrhyw oblygiadau meddygol o ddefnydd Taser gan helpu i wella diogelwch y cyhoedd a swyddogion. Mae'r gwaith cydweithredol hwn yn hanfodol er mwyn ein galluogi i wella'r craffu ynghylch defnyddio Taser a dysgu'r heddlu.

Mae data’r Swyddfa Gartref yn dangos yn 2020/21 bod 2,591 o weithiau lle ddefnyddiodd yr heddlu Taser yn ymwneud â’r rhai y canfyddir eu bod o dan 18 oed, a 123 o achosion lle defnyddion nhw Taser yn llawn. 

Gwnaeth ein hadolygiad Taser, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, 17 o argymhellion i sefydliadau gan gynnwys y Coleg Plismona, yr NPCC, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, a’r Swyddfa Gartref. Gosodwyd y rhain o fewn y themâu canlynol:

  • Canllawiau a hyfforddiant – Gwella’r canllawiau a’r hyfforddiant cenedlaethol presennol i swyddogion, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl a phlant sy’n agored i niwed, rhagfarn hiliol ac anghymesuredd, a sgiliau cyfathrebu, a sgiliau dad-ddwysáu sefyllfa.
  • Craffu a monitro defnydd Taser – Darparu mwy o graffu ar ddefnydd Taser ar lefel leol a chenedlaethol, er mwyn nodi a mynd i’r afael ag unrhyw anghenion dysgu ar gyfer heddluoedd ac i hysbysu rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol o gamau gweithredu a'r penderfyniadau a gymerwyd.
  • Ymgysylltu a mewnbwn cymunedol – Datblygu a chynnal rhagor o ymchwil er mwyn deall gwahaniaethu ar sail hil, anghymesuredd, effaith rhagfarn hiliol a risgiau defnydd Taser yn well, yn enwedig mewn perthynas â rhyddhau Taser dro ar ôl tro ac am gyfnod hir, a risgiau seicolegol o ddefnydd Taser ar blant.
Tags
  • Defnydd o rym a phlismona arfog