Mae’r IOPC yn cyhoeddi ffigurau ar gwynion heddlu a wnaed yn 2022/23
Heddiw, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei hadroddiad blynyddol ‘Ystadegau Cwynion yr Heddlu’ ar gyfer Lloegr a Chymru 2022/23.
Ym mis Chwefror 2020, gwnaed newidiadau sylweddol i’r system gwynion gan gynnwys ehangu’r diffiniad o gŵyn i “unrhyw anfodlonrwydd â gwasanaeth yr heddlu”. O ganlyniad, mae mwy o gwynion wedi'u cofnodi nag yn y blynyddoedd blaenorol.
Mae'r system hefyd yn caniatáu i fwy o gwynion gael eu trin yn anffurfiol, lle'n briodol, megis drwy ymddiheuriad neu esboniad. Gall person ofyn am adolygiad os yw'n anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'i gŵyn.
Wrth i'r system newydd barhau i gael ei gwreiddio ar draws heddluoedd, dylid dal i drin y data fel data arbrofol i gydnabod eu bod yn parhau yn y cyfnod profi a dylid bod yn ofalus wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Mae cwyn heddlu yn fynegiant o anfodlonrwydd gan un o'r cyhoedd am y gwasanaeth y mae wedi'i dderbyn gan heddlu. Mae'n rhaid cofnodi pob mynegiad o anfodlonrwydd. Heddluoedd a chyrff plismona lleol sy'n delio â mwyafrif y cwynion. Mae’r IOPC yn gosod y safonau ar gyfer ymdrin â chwynion trwy ganllaw statudol.
Mae’r adroddiad yn dangos:
Cwynion wedi’u cofnodi a’u cwblhau:
Cofnodwyd 81,142 o gwynion – cynnydd o 8% ar y cyfanswm a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol. Cyfanswm y cwynion oedd 134,952 o honiadau a wnaed.
Cafodd 31,620 o'r cwynion eu cofnodi'n ffurfiol - bron i 12% yn llai na llynedd.
Cwblhawyd 78,725 o gwynion eleni (30,521 yn ffurfiol a 48,204 yn anffurfiol) - cynnydd o 9% ar llynedd.
Cymerodd heddluoedd bum diwrnod gwaith ar gyfartaledd i gysylltu ag achwynydd ar ôl i'r gŵyn gael ei gwneud. Mae hyn yn welliant o bedwar diwrnod ar llynedd. Gostyngodd yr amser a gymerodd heddluoedd i gwblhau honiadau anffurfiol hefyd o 21 i 16 diwrnod eleni. Lle cafodd ei drin yn ffurfiol, fe gymerodd 159 diwrnod i heddluoedd gwblhau honiadau ar ymchwiliadau i gwynion, cynnydd o 25 ers llynedd.
Mathau o gwynion:
Caiff cwynion eu categoreiddio yn ôl y materion y cwynir amdanynt. Mae’r gyfran fwyaf o honiadau’n ymwneud â “chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth” (55%). Mae’r rhain yn ymwneud â darparu gwasanaethau, megis diffyg diweddariadau a chyflymder ymatebion, yn hytrach na phryderon am gamymddwyn yr heddlu.
Roedd y cyfrannau uchaf nesaf ar gyfer “pwerau, polisïau a gweithdrefnau’r heddlu” (20%) ac ymddygiadau unigol (13%). Er eu bod yn cyfrif am ddim ond 1% o’r cyfanswm, cododd honiadau “ymddygiad annheilwng” a gofnodwyd o 622 yn 2021/22 i 743 eleni, cynnydd o 19%.
Achwynwyr a’r rhai y cwynwyd amdanynt:
O'r 74,543 o bobl a gwynodd am yr heddlu, roedd 51% o'r achwynwyr yn ddynion. Y grŵp oedran mwyaf cyffredin i gwyno oedd y rhai 30-39 oed (21%). Er mai dim ond 2% o'r cyfanswm, cynyddodd cwynion gan bobl 17 oed neu iau 28% eleni.
Roedd 55% o'r holl achwynwyr yn Wyn. Roedd ethnigrwydd 31% o achwynwyr yn anhysbys ac mae'r rhai a atebodd y cwestiwn ethnigrwydd wedi gostwng bum pwynt canran o gymharu â'r llynedd.
Roedd 51,720 o bobl oedd yn gwasanaethu gyda'r heddlu yn destun cwyn. Roedd 62% o'r rhai y cwynwyd amdanynt yn ddynion, 80% yn Wyn a 14% lle nad oedd eu hethnigrwydd yn hysbys.
Canlyniadau cwynion (honiadau ac achosion):
O’r 30,521 o gwynion yr ymdriniwyd â nhw’n ffurfiol yn 2022/23, roedd gan ychydig dros hanner (52%) o leiaf un honiad a arweiniodd at esboniad neu ymddiheuriad, sef cynnydd o 10 pwynt canran ers llynedd. Arweiniodd 40% at beidio â chymryd unrhyw gamau ychwanegol, gostyngiad o 8 pwynt canran ar llynedd.
Roedd gan 113 o’r cwynion yr ymdriniwyd â nhw’n ffurfiol o leiaf un honiad a arweiniodd at naill ai gyfarfod neu wrandawiad camymddwyn, o gymharu â 68 yn 2021/22 a 18 yn 2020/21. Mae’r 113 yn cynrychioli 24% o’r 468 o achosion yr ymdriniwyd â nhw’n ffurfiol yn amodol ar weithdrefnau arbennig lle mae achosion camymddwyn ar gael o ganlyniad, cynnydd o 15% y flwyddyn flaenorol.
Y cam mwyaf cyffredin o ganlyniad i gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol oedd esboniad yn cael ei roi i'r achwynydd (58% o gwynion). Arweiniodd 21% o gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol at o leiaf un honiad heb unrhyw gamau ychwanegol.
Cafodd 92% o'r honiadau a drafodwyd yn anffurfiol eu datrys i foddhad yr achwynydd.
Adolygiadau
Ymdrinnir ag adolygiadau gan y corff adolygu priodol sef naill ai'r IOPC neu'r Corff Plismona Lleol. Cadarnhaodd cyrff plismona lleol (LPB) 19% o'r 4,093 o gwynion a adolygwyd ganddynt nad oeddent wedi cael eu hymchwilio a 27% (156 allan o 574) o'r rhai yr ymchwiliwyd iddynt.
Ymdriniodd yr IOPC â 1,500 o adolygiadau a chadarnhaodd 44% o'r rhai nad oedd wedi cael eu hymchwilio a 32% o'r rhai a oedd wedi cael eu hymchwilio.