IOPC Director General statement following publication of the 2020/21 police complaint statistics
Commenting on the publication of the Annual Police Complaint Statistics for England and Wales 2020/21, IOPC Director General Michael Lockwood, said:
“Heddiw mae'r IOPC wedi cyhoeddi ei Ystadegau Cwynion Blynyddol yr Heddlu ar gyfer 2020/21. Dyma'r adroddiad cyntaf ers i newidiadau sylweddol i system gwynion yr heddlu gael eu gweithredu ym mis Chwefror 2020.
“Mae system gwynion effeithiol a goruchwyliaeth annibynnol ohoni, yn rhan hanfodol o sicrhau hyder y cyhoedd mewn plismona. Nawr yn fwy nag erioed mae angen sicrwydd ar y cyhoedd bod yr heddlu yn gwrando ar eu pryderon ac yn gweithredu i unioni pethau. Maent eisiau gwybod bod rhwystrau a gwrthbwysau i bwerau'r heddlu a bod yna atebolrwydd a dysgu pan aiff pethau o chwith. Mae'r ystadegau hyn yn rhoi golwg ar gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr – gan nodi pa gwynion sy'n cael eu gwneud a sut mae heddluoedd yn ymateb iddynt.
“O ystyried y newidiadau sylweddol i sut mae cwynion yn cael eu cofnodi a'u trin gan heddluoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae angen mwy o amser i sicrhau cysondeb a chyflawnrwydd y data hwn. Felly, y ffigurau hyn yw'r hyn y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddiffinio fel 'ystadegau arbrofol' – maent yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.
“Er gwaethaf hynny, mae’n dda gen i weld bod ehangu'r diffiniad o gŵyn i unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd a chael gwared ar lawer o'r rhwystrau i gofnodi, wedi gweld y cynnydd sylweddol disgwyliedig yn nifer y cwynion a dderbynnir. Yr hyn sydd yr un mor gadarnhaol yw bod llawer mwy o gwynion bellach yn cael eu datrys yn gyflym ac yn anffurfiol, gyda llai yn arwain at ymchwiliadau hir. Mae'r rhain yn cael eu disodli gan ymatebion mwy personol fel esboniadau ac ymddiheuriadau sy'n mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd.
“Gwyddom fod gan bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ifanc lai o hyder yn yr heddlu – felly mae'n bwysig iawn bod mwy o ymdrechion yn cael eu gwneud i wella'r data demograffig a gesglir. Mae'n bwysig deall pwy sy'n cwyno a sut ymatebir iddynt.
“O ystyried natur arbrofol yr ystadegau, rhaid inni fod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau pendant ar ganlyniadau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n werth nodi mai ychydig iawn o gwynion a arweiniodd at ymchwiliad i ymddygiad unigolyn, a llai fyth (18) at ganlyniad camymddwyn i unigolyn. Wrth i fwy o ddata canlyniadau ddod ar gael, byddwn yn ceisio sicrwydd bod yna ymateb priodol pan godir pryderon am ymddygiad.
“Rwy’n pryderu bod cyn lleied o achosion wedi arwain at ddysgu i unigolion, neu’r heddlu dan sylw – ac yn enwedig mai ychydig iawn o achosion (815) a arweiniodd at ddefnyddio ymarfer myfyriol fel canlyniad.
“Roedd cyflwyno arfer myfyriol yn ganolog i ddiwygio'r system gwynion. Mae'n broses sydd â'r nod o ddarparu amgylchedd agored i annog pawb sy'n cymryd rhan i fyfyrio, dysgu a, lle bo angen, cywiro pethau i atal materion rhag digwydd eto.
“Mae'r diwygiadau hyn yn gyfle gwirioneddol i wella'r system gwynion a disgyblaeth ar gyfer achwynwyr a swyddogion. Ond dim ond os yw'r gwasanaeth a'r unigolion ynddo yn wirioneddol agored i fyfyrio, dysgu a gwella y gall hyn ddigwydd.
“Fel rhan o'n rôl wrth oruchwylio'r system gwynion, byddwn yn archwilio'r defnydd o arfer myfyriol ar draws heddluoedd i weld sut y cafodd ei gymhwyso.
“Byddwn yn gofyn i bob Prif Gwnstabl a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu ystyried sut y gallant ddefnyddio'r data yn yr adroddiad hwn i wella ymhellach eu hymdriniaeth â chwynion a dangos i'r cyhoedd bod ymateb priodol pan godir materion.”