Fy mhrofiad yn Eisteddfod Genedlaethol gyntaf SAYH 2024
Fel rhywun sydd wedi mynychu nifer o Eisteddfodau ar draws Cymru ers pan oeddwn i’n fach, roedd yn brofiad gwahanol i mi eleni i fynychu fel rhan o fy ngwaith gyda SAYH ac roedd yn wych bod yn rhan o ymddangosiad cyntaf ein sefydliad yn yr ŵyl.
Eleni cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol, sef gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ac am leoliad bywiog, lliwgar a hardd! Roedd aelodau o’n staff, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr, yn bresennol ar stondin ochr yn ochr â sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Cymraeg Llywodraeth y DU, yn codi ymwybyddiaeth am ein sefydliad a’n gwasanaethau Cymraeg.
Ymwelodd cannoedd o bobl â’r stondin a chwblhau ein holiaduron, gan roi cipolwg defnyddiol iawn i ni o faint o bobl oedd wedi clywed am ein sefydliad, a oedd yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei wneud a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dysgodd pobl fod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni mewn amrywiol ffyrdd, megis drwy ffonio ein canolfan cyswllt cwsmeriaid a thrwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan.
Roedd yn hyfryd sgwrsio ag aelodau o’r cyhoedd ac roedd yn uchafbwynt personol i mi glywed ein staff sy’n ddysgwyr Cymraeg yn ymarfer yr iaith ac yn datblygu eu hyder gyda phob sgwrs.
Cafodd pawb amser gwych, yn enwedig wrth i sawl aelod o staff brofi’r Eisteddfod am y tro cyntaf. Cawsom gyfle i grwydro’r stondinau, mynychu’r Pafiliwn i weld ambell i gystadleuaeth, a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg gan nifer o artistiaid a bandiau Cymreig enwog a berfformiodd yn fyw ar y llwyfan.
Ar y cyfan, roedd yn brofiad cyntaf gwych i’n sefydliad yn yr Eisteddfod.