Diweddariad ar waith gwahaniaethu ar sail hil yr IOPC

Published: 21 Oct 2021
News

Cefndir ar ein gwaith ar wahaniaethu ar sail hil

Mae hanes hir o densiynau rhwng yr heddlu a'r gymuned Ddu wedi cael ei ddogfennu. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd, mae llawer mwy i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod gennym wasanaeth heddlu ble mae pob cymuned yn derbyn gwasanaeth teg a ble maent yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn a'u parchu gan yr heddlu.

Mae hyder y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer model plismona sy’n seiliedig ar gydsyniad. Mae methu â chydnabod gwahaniaethu ar sail hil a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn parhau i danseilio cyfreithlondeb plismona, gan danio diffyg ymddiriedaeth ymhlith aelodau’r cymunedau hynny y bydd yr heddlu’n defnyddio eu pwerau’n deg ac yn effeithiol ac yn eu hamddiffyn rhag niwed.

Mae'n rhaid ei enwi a mynd i'r afael ag ef.

Mae grwpiau cymunedol wedi codi pryderon gyda ni am blismona anghymesur yn eu cymunedau o gymharu â grwpiau hiliol eraill ac effaith rhagfarn hiliol sy'n dylanwadu ar gredoau, gweithredoedd a phenderfyniadau swyddogion.

Ym mis Medi 2020, yn dilyn pryderon cynyddol cymunedol am blismona a hiliaeth, fe wnaethom ddwyn ymlaen waith wedi'i gynllunio ar wahaniaethu ar sail hil fel maes ffocws thematig ar gyfer yr IOPC. Drwy'r gwaith hwn rydym yn ceisio datgelu a herio gwahaniaethu hiliol lle maent yn bodoli mewn plismona yn Lloegr ac yng Nghymru a dwyn heddluoedd i gyfrif am newid arferion plismona.

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'n cynnydd hyd yma, gan gynnwys y mathau o achosion a materion yr ydym yn eu gweld ac unrhyw ddysgu sy'n dod i'r amlwg. Cyhoeddir adroddiad ychwanegol y flwyddyn nesaf yn rhoi rhagor o fanylion am effaith y gwaith hwn.

Er nad yw ein gwaith yn rhoi darlun cwbl gynrychioliadol i ni o blismona ledled Lloegr a Chymru, y cwynion a’r materion ymddygiad a welwn fel arfer yw’r achosion mwyaf difrifol a sensitif ac felly’n bwysig.

Mae’r honiadau o wahaniaethu yr ydym yn eu gweld yn rhai real iawn a dylent fod yn destun pryder i heddluoedd ledled Lloegr a Chymru.

Yn galonogol, mae llawer o arwyddion o arfer da ac arloesedd yn dod i'r amlwg gan heddluoedd sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil ac anghymesuredd, y byddwn yn parhau i'w harchwilio fel catalyddion posibl ar gyfer newid. Mae'n bwysig parhau i wthio a herio ein hunain a'r system blismona ehangach i alw allan a mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil.

Mewnwelediadau cynnar o'n gwaith

Anghyfartaledd yn y defnydd o stopio a chwilio

Mae llawer o'n hymchwiliadau ac adolygiadau ag elfen bosibl o wahaniaethu ar sail hil yn cynnwys defnyddio stopio a chwilio. Mae hyn yn cefnogi’r hyn rydym yn ei glywed gan gymunedau a rhanddeiliaid eraill sy’n dweud wrthym bod stopio a chwilio yn broblem sylweddol mewn cymunedau Du yn arbennig a’i fod yn cael effaith negyddol ar ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.

Mae ymchwiliadau a gynhaliwyd gennym wedi arwain at:

  • Argymhelliad bod swyddog yn myfyrio ar stopio'r dyn Du yn ei gar a chryfder yr wybodaeth oedd yn cyfiawnhau'r stop. Fe wnaethom hefyd argymell bod y swyddog yn ystyried sut y gallai ei weithredoedd effeithio'n anghymesur ar ddynion Du, pam y gellid ystyried bod y stop yn wahaniaethol, yr effaith a gafodd y digwyddiad ar y dyn dan sylw a'r effaith y gallai ei gael ar hyder mewn plismona. Cytunodd yr heddlu â hyn ac argymhelliad ychwanegol sydd wedi arwain at y swyddog yn derbyn hyfforddiant ychwanegol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Canfyddiad mewn gwrandawiad camymddwyn bod swyddog wedi torri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol mewn perthynas â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth, Awdurdod, Parch a Chwrteisi ac Ymddygiad Gwarthus ar ôl i ddynes Ddu gael ei stopio yn ei char. Awgrymodd y fenyw fod y stopio yn deillio o broffilio hiliol a gwahaniaethu. Honnwyd hefyd bod y ddau swyddog wedi gwneud sylw a oedd i'w weld yn stereoteipio pobl Ddu. Pan heriodd hi hyn â’r swyddogion, mae’n honni bod ymddygiad y swyddogion yn amhroffesiynol, yn amhriodol ac yn fygythiol. Canfu’r IOPC fod gan y swyddog achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol . Roedd y swyddog wedi ymddiswyddo o'r heddlu cyn y gwrandawiad camymddwyn , ond daeth y Panel i'r casgliad fod yr achosion o dorri amodau wedi cael eu profi ac y byddai wedi ystyried gosod sancsiwn llai na diswyddo. Cafwyd bod gan swyddog arall achos i'w ateb am gamymddwyn. Cynhaliwyd cyfarfod camymddwyn a benderfynodd fod y swyddog wedi torri'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol o ran Awdurdod, Parch a Chwrteisi ac Ymddygiad Anghredadwy. Roedd y sancsiwn ar ffurf cyngor rheoli.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu argymhellion dysgu cenedlaethol yn seiliedig ar dystiolaeth o'n hachosion stopio a chwilio. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn y man.

Anghymesuredd yn y defnydd o Taser

Mae pryderon ynghylch gwahaniaethu ar sail hil ac anghymesuredd ymhlith y materion a godwyd amlaf gan grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid mewn perthynas â defnydd o Taser. Mae pryder arbennig bod y stereoteipio o ddynion a bechgyn ifanc Du yn arwain at yr heddlu'n defnyddio grym anghymesur yn eu herbyn, gan gynnwys Taser.

Ym mis Awst 2021, cyhoeddom adolygiad o 101 o ymchwiliadau annibynnol dros gyfnod o 5 mlynedd (2015-2020) yn ymwneud â defnydd o Taser. Canfu hwn fod pobl Ddu yn cymryd rhan anghymesur yn yr ymchwiliadau hyn. Roedd 71% o'r unigolion yn Wyn, 22% yn Ddu, llai na 4% yn Asiaidd a llai na 2% o ethnigrwydd Cymysg. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras â data ethnigrwydd y Swyddfa Gartref ar ddefnydd o Taser.

Roedd pobl ddu, fel cyfran, yn llai tebygol o fod wedi cael defnydd o Taser yn eu herbyn na phobl Gwyn, fodd bynnag pan oeddent yn destun i ddefnydd o Taser, roeddent yn fwy tebygol o fod yn destun i'r Taser am gyfnodau hir. Roedd 29% o'r bobl Gwyn a oedd yn gysylltiedig â defnydd o Taser yn destun parhaus o fwy na 5 eiliad, tra'r oedd y ffigur yn 60% ar gyfer pobl Ddu.

Yn y mwyafrif o achosion yn ymwneud â naill ai honiadau o wahaniaethu neu stereoteipiau a thybiaethau cyffredin, roedd tystiolaeth fod gan yr unigolyn dan sylw bryderon iechyd meddwl neu anabledd dysgu. Mae hyn yn cefnogi canfyddiadau gan eraill y gall croestoriad hil ac iechyd meddwl gynyddu'r risg o lefelau uwch o ddefnydd o rym.

Gwnaethom 17 o argymhellion i fynd i'r afael â materion a nodwyd yn ein hadroddiad. Roedd hyn yn cynnwys argymhelliad i’r Coleg Plismona yn ymwneud â hyfforddi swyddogion i ddarparu dealltwriaeth o anghymesuredd hiliol o ran defnydd o Taser, a’r effaith y mae hyn yn cael ar hyder y cyhoedd a chysylltiadau cymunedol â’r heddlu.

Materion diwylliannol

Gwelwn dystiolaeth mewn rhai achosion lle mae ymddygiad a gweithredoedd rhai swyddogion yn gwrthdaro â'r gwerthoedd a ddisgwylir ganddynt.

Mae hyn wedi bod yn amlwg mewn nifer o ymchwiliadau rydym wedi'u cynnal i swyddogion heddlu sy'n rhannu cynnwys sarhaus ac amhriodol ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n galonogol bod llawer o'r achosion hyn wedi dod i'r amlwg oherwydd bod swyddogion heddlu wedi galw ar eu cydweithwyr ac wedi adrodd eu pryderon fel y mae dyletswydd arnynt i wneud.

Fe wnaethom gynnal cyfres o ymchwiliadau cysylltiedig, a elwir yn Operation Hotton, yn cynnwys swyddogion oedd yn arfer gweithio yng Ngorsaf Heddlu Charing Cross. Edrychodd ein hymchwiliadau ar honiadau gan gynnwys bwlio ac aflonyddu, y defnydd o gyffuriau, dinistrio tystiolaeth ac anfon negeseuon testun gwreig-gasaol a gwahaniaethol. O ganlyniad i'r ymchwiliad hwn canfu panel disgyblu y byddai dau gyn-swyddog wedi cael eu diswyddo o'r heddlu heb rybudd pe baent yn dal i wasanaethu. Mae’r ddau gyn-swyddog wedi cael eu rhoi ar Restr Gwahardd yr Heddlu gan atal cyflogaeth â gwasanaeth yr heddlu yn y dyfodol.

Mae ymchwiliadau sy'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a gwahaniaethu ar sail hil wedi cynnwys:

  • Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd nifer o swyddogion Gwasanaeth Heddlu Llundain rybuddion ysgrifenedig terfynol am gamymddwyn difrifol ar ôl rhannu negeseuon testun a oedd yn cynnwys cyfeiriadau sarhaus tuag at bobl ag anableddau a jôcs am dreisio, paedoffilia, hiliaeth a homoffobia.
  • Ymchwiliad i rannu delwedd gan swyddog o Heddlu Dyfnaint a Chernyw ar grŵp WhatsApp oedd yn cynnwys nifer o swyddogion heddlu a staff eraill. Gosododd y ddelwedd, a gafodd ei newid, o actor ffilm o oedolyn noeth yn lle heddwas yn penlinio ar wddf George Floyd. Anfonwyd adroddiad ein hymchwiliad i Wasanaeth Erlyn y Goron a awdurdododd gyhuddiad o dan A.127 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Cafwyd y swyddog yn ddieuog gan farnwr rhanbarth o’r drosedd o anfon delwedd hynod sarhaus. Canfu adroddiad ein hymchwiliad fod gan y swyddog achos disgyblu i'w ateb am gamymddwyn difrifol ac mai mater i'r heddlu nawr fydd bwrw ymlaen â chamau disgyblu.
  • Ym mis Ebrill 2021 cyhuddwyd dau o swyddogion Gwasanaeth Heddlu Llundain o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus mewn perthynas â honiad i dynnu lluniau mewn lleoliad trosedd yn Wembley y flwyddyn flaenorol ac yna eu rhannu. Roedd hyn yn dilyn atgyfeiriad gan Wasanaeth Heddlu Llundain ar ôl marwolaethau Nicole Smallman a Bibaa Henry.

Methiant i ymchwilio

Rydym yn gwybod o siarad â’n rhanddeiliaid, lle mae unigolyn o gefndir Du, Asiaidd a chefndir Lleiafrifol yn ddioddefwr trosedd, bod pryderon nad yw ymchwiliadau’n cael eu cynnal â’r un trylwyredd ag y byddent ar gyfer dioddefwr Gwyn o drosedd.

Rydym hefyd wedi cael pryderon a godwyd â ni, yng nghyd-destun ein gwaith thematig, am ymateb yr heddlu i bobl o gymunedau Du, Asiaidd a chefndir lleiafrifoedd ethnig yn mynd ar goll. Mae pobl sy'n credu y gallai gwahaniaethu ar sail hil fod wedi effeithio ar yr ymchwiliad i'w haelod o'r teulu coll, gan arwain at fylchau yn y gweithredoedd y byddent wedi eu disgwyl gan yr heddlu.

Er enghraifft, rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i gwynion gan fam Richard Okorogheye am y ffordd yr ymdriniodd Gwasanaeth Heddlu'r Metropolitan ag adroddiadau bod ei mab ar goll. Fel rhan o’n hymchwiliad i weld os ymatebodd yr heddlu’n briodol i’r pryderon a godwyd bod Richard ar goll, byddwn yn ystyried os chwaraeodd ei ethnigrwydd neu ethnigrwydd ei fam ran yn y ffordd yr ymdriniwyd â’r adroddiadau cychwynnol o’i ddiflaniad.

Fe wnaethom hefyd ymchwilio i sut yr ymdriniodd Gwasanaeth Heddlu Llundain â nifer o alwadau gan deulu a ffrindiau Nicole Smallman a Bibaa Henry a oedd yn pryderu am eu lleoliad.

Crynodeb o weithgaredd allweddol

Gweithio i fynd i'r afael â defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol

Ym mis Ebrill 2021 ysgrifennodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC at Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn gofyn iddynt atgoffa heddluoedd a swyddogion o’u rhwymedigaethau o dan God Moeseg a Safonau Ymddygiad Proffesiynol yr heddlu. Yn dilyn hyn mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi anfon nodyn atgoffa i heddluoedd o ddisgwyliadau swyddogion wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseuon. Maent hefyd wedi sefydlu gweithgor i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym bellach yn gweithio âr NPCC a rhanddeiliaid plismona eraill fel rhan o’r gweithgor hwn i gefnogi eu gwaith i ddod ag offer a chymorth ynghyd ar lefel genedlaethol i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Adolygu'r modd y mae'r heddlu'n delio â chwynion gwahaniaethu

Ar draws y rhan fwyaf o heddluoedd, mae honiadau o gwynion gwahaniaethu yn parhau i gael eu cadarnhau ar gyfraddau sylweddol is na'r rhan fwyaf o fathau eraill o honiadau.

Mae ein hystadegau cwynion yr Heddlu ar gyfer 2019/20 yn dangos yr ymdriniwyd â 90% o ymchwiliadau i honiadau o gŵynion gwahaniaethu fel ymchwiliadau heb fod yn ofynion arbennig (lle canfuwyd nad oedd y trothwy ar gyfer arwydd o gamymddwyn wedi cael ei fodloni).

Ar draws yr achosion hyn, dim ond dau y cant o honiadau o gwynion gwahaniaethu a gadarnhawyd. Mae hyn yn cymharu ag 11% a gadarnhawyd ar draws yr holl honiadau o gŵyn yr ymdriniwyd â nhw ar yr un lefel (yr ymchwiliad heb fod yn destun gofynion arbennig).

Rydym yn pryderu na fu llawer o newid mewn canlyniadau cwynion yn y maes hwn. Yn gyffredinol, mae honiadau o wahaniaethu ar sail hil yn gyfran fach iawn o'r holl honiadau a wneir yn erbyn yr heddlu. Mae arwyddion cynnar yn cyfeirio at gwestiynau parhaus ynghylch gwrthod cwynion ar sail canfyddiad; diffyg ymgysylltu cynnar â'r achwynydd; a honiadau nad ydynt yn cael eu hadrodd yn ddigonol.

Heb amheuaeth, mae ymchwilio i honiadau o wahaniaethu yn heriol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i system gwynion yr heddlu allu ymateb i'r her hon a darparu dull effeithiol o ymdrin â chwynion mewn perthynas â materion gwahaniaethu. Trwy wneud hynny mae cyfle i wella ymddiriedaeth a hyder ar draws pob cymuned.

Ym mis Mai 2021, fe wnaethom ysgrifennu at y Prif Gwnstabliaid a’r Comisiynwyr Plismona a Throseddu i ofyn am eu cymorth â’r maes ffocws pwysig hwn.

Mae llawer o heddluoedd a chyrff plismona lleol, ynghyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, wrthi’n edrych i weld ble gallant wneud gwelliannau i fynd i’r afael â materion hirsefydlog ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, amrywiaeth y gweithlu a hyder isel mewn plismona o fewn cymunedau ethnig penodol.

O ran goruchwyliaeth leol, mae ystod eang o fentrau wedi cael eu rhoi ar waith gan heddluoedd unigol a Chyrff Plismona Lleol (LPBs) i wella'r broses ar gyfer ymdrin â chwynion o adolygiadau achos i ymgysylltu cynyddol â grwpiau anodd eu cyrraedd. Y dull mwyaf cyffredin yw adolygu ffeiliau thematig ac, yn gynyddol, mae ffocws ar archwilio anghymesuredd posibl o ran hil fel nodwedd warchodedig ac effaith hyn ar y broses ar gyfer ymdrin â chwynion.

Fodd bynnag, credwn fod mwy y gall Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr ei wneud i ddeall a mynd i'r afael ag unrhyw lefelau arbennig o isel o gyfraddau a gadarnhawyd mewn perthynas â chwynion gwahaniaethu.

Bydd ein hadroddiad terfynol yn edrych yn fanylach ar y modd yr ymdrinnir â chwynion gwahaniaethu hiliol yn lleol lle gwelwn yr achosion hyn ar apêl ac adolygiad a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i rannu'r hyn a ddysgwyd ynghylch ymdrin â honiadau o wahaniaethu gyda heddluoedd. Fodd bynnag, mae ein harchwiliad cychwynnol o’r data yn dangos:

  • Mae mwyafrif helaeth yr honiadau o wahaniaethu ar sail hil yn cael eu trin fel cwynion ffurfiol gan heddluoedd. Lle mae eithriadau, mae'r ffactorau sy'n cyfrannu'n cynnwys sut mae adrannau cwynion wedi cael eu strwythuro ac effaith cwynion niferus sy'n deillio o brotestiadau torfol.
  • Lle mae cwynion wedi cael eu rheoli'n ffurfiol, ymdrinnir â nhw amlaf heb ymchwiliad. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd heddluoedd i gymryd y camau maent yn meddwl fydd fwyaf priodol i ymateb i bryderon yr achwynydd a gallai gynnwys camau gweithredu fel casglu gwybodaeth i ddeall beth ddigwyddodd, ateb cwestiynau'r achwynydd neu nodi a gweithredu ar unrhyw ddysgu. Rhan o’n gwaith fydd profi os yw’r defnydd hwn yn briodol, a byddwn yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol, megis asesiad o ddifrifoldeb y gŵyn a’r defnydd o arfer myfyriol sy’n galluogi swyddogion i fyfyrio, dysgu a, lle bo angen, cywiro pethau ac atal unrhyw faterion rhag ddigwydd eto.

Rydym yn awyddus i archwilio'r rhain ac unrhyw feysydd eraill sy'n dod i'r amlwg ymhellach a byddant yn bwydo i mewn i'n hymgysylltiad arfaethedig â'r heddluoedd a Chyrff Plismona Lleol a byddant yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adroddiad nesaf ar y gwaith hwn.

Gweithio ymhellach ar ein hargymhellion dysgu

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd yr IOPC 11 o argymhellion i’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan er mwyn gwella eu hymarfer mewn perthynas â’u defnydd o bwerau stopio a chwilio. Derbyniwyd pob un o'r 11 argymhelliad hyn. Fe wnaethom rannu gwybodaeth am yr argymhellion i'r 32 o Grwpiau Monitro Cymunedol Stopio a Chwilio (CMG) gwirfoddol yn Llundain. Mae'r grwpiau hyn yn monitro'r holl faterion stopio a chwilio lleol gan gynnwys nifer yr stopiau, cyfraddau arestio, anghymesuredd, cwynion a fideo a wisgir ar y corff.

Ym mis Gorffennaf 2021 anfonwyd arolwg at y CMGs i ganfod beth oedd wedi digwydd ers ein hargymhellion. Derbyniwyd ymatebion gan 20 CMG yn cynrychioli 19 bwrdeistref.

Rhannodd llawer o'r CMGs adborth cadarnhaol a chroesawu ein hargymhellion stopio a chwilio. Mae canlyniadau’r arolwg yn amlygu bod rhaogor o waith i’r MPS ei wneud i weithredu ein hargymhellion a dangos atebolrwydd i gymunedau lleol. Fodd bynnag, mae nifer fach o Unedau Rheoli Bwrdeistref MPS wedi sefydlu cynlluniau gweithredu y maent wedi rhannu â'r CMGs ac wedi cynnwys CMGs arnynt.

Ymhlith y newidiadau a adroddwyd gan aelodau'r CMG mae:

  • Gwell rhannu data rhwng yr heddlu a'r CMG ar ddefnyddio gefynnau
  • Ymwybyddiaeth gynyddol a hyfforddiant bod arogl canabis fel yr unig reswm dros chwilio yn annigonol
  • Gweld lluniau fideo a wisgir ar y corff ynghyd â 5090 o slipiau stopio a siarad â'r gymuned am effaith y pwerau
  • Canolbwyntio ar agweddau yn ystod chwiliadau, dad-ddwysáu a hyfforddiant diogelwch swyddogion i leihau gwrthdaro
  • Adrodd am setiau mwy cyflawn o seiliau, a llai o achosion un mater dros y stiopio
  • Ymrwymiad i well goruchwyliaeth a datblygiad

Deall pryderon rhanddeiliaid

Rhwng Ionawr a Gorffennaf 2021, cyfarfuom â dros 192 o sefydliadau megis comisiynau ieuenctid, grwpiau monitro stopio a chwilio, gwasanaethau troseddau ieuenctid, gwasanaethau trydydd sector, grwpiau cymunedol a grwpiau cynghori annibynnol lleol. Roedd gwahaniaethu yn broblem â rhanddeiliaid plismona a heb fod ynghylch plismona yn 63% o gyfarfodydd. Nodwyd stopio a chwilio fel thema yn hanner o rheini.

Roedd y materion penodol a godwyd yn cynnwys:

  • Effaith anghymesur arferion stopio a chwilio ar gymunedau Du, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19.
  • Cymunedau du yn teimlo eu bod yn destun gorddefnydd o gefynnau, stopio a chwilio a thactegau plismona amhriodol ac ymosodol gan swyddogion yn y Grŵp Cymorth Tiriogaethol neu’r Unedau Cymorth Tactegol
  • Mae unigolion sydd wedi derbyn ymateb negyddol neu anfoddhaol wrth adrodd am Drosedd Casineb yn teimlo’n llai ymddiriedol tuag at yr heddlu, ac yn llai tebygol o gwyno.
  • Ymatebion gwael yr heddlu i bobl sydd ar goll a ble mae'r unigolyn yn dod o gymuned Ddu, Asiaidd a chefndir lleiafrifol .
  • Iechyd meddwl mewn cymunedau Du ac Asiaidd a'r ffordd mae'r heddlu'n delio ag unigolion du sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

Teimlai llawer o randdeiliaid hefyd y dylai'r IOPC fod yn fwy hyderus wrth siarad allan mwy am wahaniaethu ar sail hil.

Rydym wedi gwahodd nifer o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y gwaith hwn i ffurfio rhan o grŵp cynghori i'n cynghori ar ein gwaith gwahaniaethu ar sail hil yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i wrando ar adborth rhanddeiliaid yn y maes hwn a gweithredu arno er mwyn sicrhau bod ein gwaith thematig yn canolbwyntio ar y materion sy’n peri’r pryder mwyaf i’r cyhoedd.

Pryderon am anghymesuredd neu wahaniaethu posibl nad ydynt yn tueddu i fod yn rhan o'r achosion sy'n cael eu hatgyfeirio atom

Mae meysydd eraill o blismona lle rydym yn gwybod gan ein rhanddeiliaid, neu gan y cyfryngau, bod pryderon ynghylch anghymesuredd neu wahaniaethu posibl ond nad ydynt yn tueddu i fod yn rhan o’r achosion sy'n cael eu hatgyfeirio atom. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Achosion yn ymwneud â phobl o gymunedau Sipsiwn, Romani a Theithwyr.
  • Achosion yn ymwneud â phobl â statws mewnfudo ansefydlog.
  • Cwynion am y defnydd o bwerau o dan Atodlen 7 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 sy’n caniatáu i swyddog archwilio stopio a chwestiynu a, phan fo angen, cadw a chwilio, unigolion sy’n teithio drwy borthladdoedd, meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd rhyngwladol neu ardal y ffin i benderfynu os yw’r unigolyn yn ymddangos i fod (neu wedi bod) yn ymwneud â chomisiynu, paratoi neu ysgogi gweithredoedd terfysgol.
  • Cwynion am y defnydd o bwerau o dan Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sy’n caniatáu i swyddog heddlu stopio a chwilio unigolyn heb amheuaeth lle mae awdurdodiad wedi cael ei roi ar gyfer ardal benodol.

Gall fod amrywiaeth o resymau pam nad ydym yn gweld yr achosion hyn.

Rydym yn ymwybodol o’n hymchwil tracio canfyddiadau’r cyhoedd mai ymatebwyr Du yw’r lleiaf hyderus yn yr heddlu a’r IOPC allan o ymatebwyr Du, Asiaidd a chefndir lleiafrifol. Yn ein hymchwil gyhoeddedig ddiweddaraf o 2018/19 gwelwn mai dim ond 29 y cant o ymatebwyr Du sy’n hyderus yn y modd mae’r heddlu’n ymdrin â chwynion a 42 y cant yn hyderus bod yr IOPC yn ddiduedd. Mae hyn yn cymharu â 43 y cant o ymatebwyr Asiaidd sy’n hyderus yn y modd mae'r heddlu'n ymdrin â chwynion a 61 y cant sy’n hyderus yn amhleidioldeb yr IOPC.

Mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod angen gwaith ychwanegol i feithrin hyder ymhlith cymunedau sydd wedi symud o wledydd sydd â systemau heddlu a chyfiawnder llwgr neu annibynadwy. Rydym wedi clywed y gall hyn arwain at ddiffyg hyder sy’n effeithio ar barodrwydd pobl i wneud cwyn. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi siarad â ni am effaith rhwystrau iaith a gwahaniaethau diwylliannol ar allu pobl i ymgysylltu â’r system gwynion.

Camau nesaf

Mae’n hanfodol ein bod yn gallu ymateb i’r dystiolaeth sy’n deillio o’n hachosion a’n pryderon a godwyd gan gymunedau er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau i fod yn berthnasol.

Yn y misoedd i ddod, byddwn yn cynnal dadansoddiad manwl ychwanegol o'r dystiolaeth o'n hachosion i nodi themâu a thueddiadau. Bydd hyn yn canolbwyntio ar nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a meysydd lle gallai fod angen newidiadau i bolisi neu arfer plismona. Mae hyn yn debygol o arwain at ddatblygu a chyhoeddi rhagor o argymhellion dysgu sefydliadol.

Byddwn hefyd yn gweithio i ddeall y rhesymau y tu ôl i ni beidio â gweld rhai o'r materion y gallem fod wedi disgwyl eu gwneud, ac yn ystyried sut y gallem fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau rydym yn eu nodi.

Bydd ein gwaith ar gwynion, apeliadau ac adolygiadau hefyd yn parhau i lywio gwaith parhaus â heddluoedd a chyrff plismona lleol.

Byddwn yn parhau i nodi unrhyw feysydd i'w gwella yn ein harferion gweithredol a datblygu arweiniad a hyfforddiant mewnol ychwanegol yn ôl y gofyn. Byddwn hefyd yn cwblhau adolygiad o'n canllawiau gwahaniaethu ar gyfer heddluoedd.

Rydym yn ymwybodol nad oes gennym yr holl ysgogiadau er mwyn sicrhau newid mewn plismona, felly byddwn yn parhau i weithio â phartneriaid ar draws y systemau plismona a chyfiawnder troseddol i gynyddu ein heffaith ar draws ein gwaith thematig.

Tags
  • Gwahaniaethu