Hysbysiad camymddwyn wedi cael ei gyflwyno i swyddog o Heddlu De Cymru fel rhan o ymchwiliad i gysylltiad yr heddlu â Mohamed Hassan

Published: 15 Feb 2021
News

Heddiw (dydd Llun) mae ymchwilwyr o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cyflwyno hysbysiad o gamymddwyn i swyddog o Heddlu De Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i gysylltiad yr heddlu â Mohamud Mohamed Hassan cyn ei farwolaeth.

Aeth y swyddog i gyfeiriad Newport Road, Caerdydd ar 8 Ionawr ac aethant â Mr Hassan i uned y ddalfa Bae Caerdydd yng nghefn fan heddlu. Yn ystod y cyfnod hwn, clywyd Mr Hassan ar gamera a wisgwyd ar y corff yn cwyno ei fod wedi cael ffit, yn dioddef meigryn, ac yn dangos arwyddion o brofi poen.

Mae’r hysbysiad camymddwyn yn ymwneud â’r ffaith, o bosib, nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i staff y carchar sy’n gyfrifol am les Mr Hassan.

Nid yw cyflwyno hysbysiad camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd. Ei ddiben yw hysbysu swyddog bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i mewn i'w ymddygiad . Y gosb fwyaf ddifrifol y gellir ei gosod os canfyddir wedyn bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn yw rhybudd ysgrifenedig.

Mae’r ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau marwolaeth drasig Mr Hassan ar ddydd Sadwrn 9 Ionawr yn digwydd ar hyn o bryd gyda thîm o ymchwilwyr sy'n parhau i ddadansoddi nifer fawr o oriau o fideo a wisgwyd ar y corff a lluniau CCTV.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Rydym yn parhau i ddadansoddi’r ffilm a rhoi tystiolaeth arall ynghyd, ac rydym yn edrych ar yr holl ryngweithio a gafodd yr heddlu â Mr Hassan dros benwythnos ei farwolaeth. Yn ystod ymchwiliad, lle mae arwydd yn codi y gallai swyddog fod wedi torri safonau proffesiynol a allai warantu cosb ddisgyblu, rydym yn cyflwyno hysbysiad disgyblu i’w hysbysu eu bod yn destun ymchwiliad. Rydym wedi rhoi gwybod i deulu Mr Hassan a Heddlu De Cymru ein bod wedi gwneud hynny ar gyfer un swyddog oherwydd y posibilrwydd o beidio â throsglwyddo gwybodaeth am les Mr Hassan i sarsiant y ddalfa oedd ar ddyletswydd. Rydym yn cadw hysbysiadau camymddwyn dan adolygiad yn ystod ymchwiliad. Ar ddiwedd ymchwiliad mae’r IOPC yn penderfynu os oes gan unrhyw swyddog dan rybudd achos disgyblu i’w ateb.”

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol