Ymgysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol

Telerau defnydd cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i helpu i egluro sut mae system gwynion yr heddlu yn gweithio a’r rôl rydym yn ei chwarae ynddi.

Ni allwn ymateb i bob sylw nac ymholiad, ond lle'n briodol, byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb cyn gynted â phosibl.

Wrth bostio sylwadau rydym yn disgwyl i'n defnyddwyr gynnig yr un lefel o gwrteisi i ni ag yr ydym yn ei gynnig iddyn nhw. Er mwyn rheoli hyn, disgwylir i bobl sy’n ymgysylltu â’n cyfrifon neu sy'n gwneud sylwadau ar ein gwaith neu staff gadw at y telerau defnydd canlynol:

Peidio â phostio deunydd y gellid ei ystyried yn:

  • Sarhaus neu anweddus
  • Twyllodrus neu gamarweiniol
  • Yn groes i unrhyw hawliau eiddo deallusol
  • Yn groes i unrhyw gyfraith neu reoliad
  • Sbam neu drolio (trydariad negyddol a/neu sarhaus cyson sy’n ceisio ysgogi ymateb)
  • Ddim yn postio deunydd sy’n cynnwys data personol neu breifat pobl eraill
  • Ddim yn defnyddio delweddau’r IOPC heb ganiatâd

Dylent hefyd ddilyn Telerau Defnydd y platfform cyfryngau cymdeithasol priodol.

Rydym yn annog trafodaeth agored, fywiog ond bydd postiadau sy'n torri unrhyw un o'r rheolau uchod yn arwain at atgoffa o'r telerau defnydd. Os teimlwn fod defnyddwyr wedi postio deunydd sy’n torri ein telerau defnydd dro ar ôl tro byddwn yn:

  • Adrodd neu ddileu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, negeseuon sy’n amhriodol yn ein barn ni
  • Rhwystro defnyddwyr
  • Adrodd am ddefnyddwyr i'r platfform priodol
  • Cadw’r hawl i godi pryderon am gynnwys a bostiwyd mewn sylwadau â chyflogwyr

Os byddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â rhyngweithio rydych wedi’i gael â’r heddlu, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn eich cyfathrebiadau cyhoeddus.

Ein defnydd o gyfryngau cymdeithasol

Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru a’u monitro yn ystod oriau swyddfa arferol, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn cyhoeddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • diweddariadau ar ymchwiliadau, gan gynnwys argymhellion dysgu
  • gwybodaeth am gyfleoedd gyrfa a gweithgareddau ymgysylltu â gweithwyr
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol
  • gwybodaeth am ein gwasanaethau (e.e. sut i wneud cwynion)
  • cyhoeddiadau fel Dysgu’r Gwersi neu ein hadroddiadau ymchwil diweddaraf
  • cyfeirio at gynnwys ar ein gwefan
  • ymgyrchoedd
  • gwahoddiadau i roi mewnbwn ar ymgynghoriadau

Er na allwn ymateb i bob neges, pan fyddwn yn nodi themâu sy'n dod i'r amlwg, materion neu awgrymiadau defnyddiol, bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i gydweithwyr perthnasol fel mater o drefn.

Os byddwch yn cysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac yn mynegi diddordeb mewn gwneud cwyn byddwn yn rhoi dolen i chi i’n gwefan i’r dudalen berthnasol sy’n cynnwys:

  • gwybodaeth am y system gwynion, a'r
  • gallu i wneud cwyn ar-lein.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch byddwn yn darparu dolen â gwybodaeth gyswllt.

Gallwn hefyd:

  • ddefnyddio hashnodau a chrybwyll cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill lle'n briodol. Nid yw cael eich dilyn, defnyddio hashnodau neu grybwyll cyfrifon eraill yn awgrymu ardystiad o unrhyw fath
  • hoffi a rhannu postiadau trydydd parti neu gynnwys y credwn sy’n berthnasol i’n gwaith ac o ddiddordeb i’n dilynwyr ond, unwaith eto, nid yw hyn yn gymeradwyaeth
  • dagio sefydliadau neu unigolion perthnasol
  • ddefnyddio dadansoddeg neu drydydd partïon i ddadansoddi ein cyfryngau cymdeithasol a’n sianeli ar gyfer tueddiadau, mewnwelediadau ac ymgysylltu

Byddwn yn cyhoeddi lluniau sydd â chaniatâd y rhai yn y llun yn unig.

Nid yw cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, a dylid eu cyfeirio at y swyddfa gyfryngau yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, rydym yn cadw'r hawl i wneud sylwadau ar sylw neu sylwadau anghywir.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI)

Er y gallwn dderbyn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth trwy gyfryngau cymdeithasol, byddem yn eich cynghori’n gryf i gyflwyno eich cais gan ddefnyddio ein cyfeiriadau e-bost neu bost fel y dangosir yn ein canllawiau. 

Nid ydym yn monitro ein sianeli fel mater o drefn y tu allan i oriau arferol, nac ar benwythnosau ac ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau sy’n cael eu methu os byddant yn cael eu gwneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'n rhaid i unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfryngau cymdeithasol gynnwys cyfeiriad dychwelyd y gallwn ymateb iddo, yn ddelfrydol naill ai cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post. Byddwn yn darparu ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i'r cyfeiriad hwnnw a byddant hefyd yn cael eu postio ar ein logiau datgelu. Darperir canllawiau ar y ffordd orau i gyflwyno cwyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

News

Keep up to date with news about our investigations and other work to increase public confidence in the police complaints system. News