Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid
Mae Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid - yn safon diwydiant wedi'i chefnogi gan y llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni gwasanaeth, amseroldeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff. Mae'n pwysleisio mewnwelediad cwsmeriaid (gwybodaeth am y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau), gan ddeall profiad y defnyddwyr a mesur bodlonrwydd gwasanaeth yn gadarn.
Cawsom ein hasesu yn erbyn 57 elfen wahanol o'r safon. Roedd yr asesiadau'n golygu tystiolaeth o sut rydym yn ateb y safon, ynghyd ag aseswyr sy'n cyfweld ein staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid.
Mae'r safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn golygu y gallwch ddisgwyl derbyn safon uchel o wasanaeth oddi wrthym, beth bynnag yw'r canlyniad neu benderfyniad. Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall eich amgylchiadau a'ch anghenion. Byddwn yn esbonio ein prosesau i chi a'r hyn y gallwch ddisgwyl oddi wrthym ar bob cam o'n gwaith - a byddwn yn eich trin â pharch a chwrteisi bob amser. Gallwch ddarllen rhagor am ein hymrwymiad i chi yn ein safonau gwasanaeth.
Ein hachrediad
Yng Ngorffennaf 2023, fe wnaethom ddychwelyd i ddechrau cylch tair blynedd Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®, oedd yn golygu bod rhaid i ni brofi ein cydymffurfiaeth â phob un o'r 57 elfen yn fanwl.
Fe wnaethom gyflawni naw graddiad Cydymffurfiaeth Plws mewn meysydd o gryfder neilltuol (darllenwch ragor am y rhain isod), a 45 graddiad Cydymffurfiaeth ar gyfer meysydd lle rydym yn ateb y safon ofynnol. Fe wnaethom dderbyn tri graddiad Cydymffurfiaeth Rannol am elfennau lle mae angen rhagor o waith i gyrraedd y safon ofynnol yn llawn.
Yn ein hasesiad cyntaf llawn ym Mawrth 2020, fe wnaethom gyflawni dim ond tri graddiad Cydymffurfiaeth Plws, a chwe maes o Gydymffurfiaeth Rannol. Mae ein canlyniadau gwell yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella taith SAYH ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth - rydym yn falch o'n cynnydd, a byddwn yn parhau i wrando ar a gweithredu ar eich adborth.
Bydd ein hadolygiad blynyddol nesaf yn digwydd yn Haf 2024.
Cyflawniadau 2023
Rydym yn sefydliad cynhwysol, ac rydym yn cyflawni gwaith helaeth i adnabod defnyddwyr gwasanaeth o dan anfantais ac i ddeall yr heriau a wynebir gan grwpiau neilltuol mewn cymdeithas.
Mae ein strategaethau a'n cynlluniau darparu yn canolbwyntio ar ein defnyddwyr gwasanaeth, ac mae cydweihwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu profiad defnyddiwr gwasanaeth.
Rydym yn cymryd cyfleoedd i ennill adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, ac yn defnyddio hyn i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.
Mae gennym brosesau cadarn mewn grym i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth, ac mae'n rhaid i staff gwblhau hyfforddiant ynghylch diogelu data a rheoli cofnodion.
Mae ein harweinyddion yn ymddiried yn ein staff ac yn eu grymuso fydd yn arwain at brofiadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Rydym yn recriwtio cydweithwyr sy'n cydweddu â'n gwerthoedd ac yn dymuno cyfrannu at brofiad ein defnyddwyr gwasanaeth. Mae ein rhaglenni hyfforddiant yn caniatáu i gydweithwyr ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Mae cydweithwyr yn teimlo bod eu syniadau ar gyfer gwelliannau trwy rwydweithiau staff ac arolygon, ac mae uwch arweinyddion yn cyfathrebu'r gweithredoedd yn weithredol i gael eu cymryd o ganlyniad i adborth.
Rydym yn sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniadau, ac yn cydnabod lle mae cydweithwyr wedi darparu gwasanaeth rhagorol.
Rydym yn sefydliad dysgu ac yn gwneud argymhellion yn rheolaidd ynghylch ymarfer gorau a newid cadarnhaol, er enghraifft trwy ein cylchgrawn Learning the Lessons.